Newyddion S4C

Mynnu atebion wedi i bwll nofio tref fod ar gau am bedair blynedd

03/02/2024
Canolfan hamdden Merthyr Tydfil

Mae rhai o drigolion Merthyr Tudful  yn galw am atebion ynglŷn â phryd y bydd pwll nofio'r dref yn ail-agor ar ôl bod ar gau am bedair blynedd.

Mae pwll nofio Canolfan Hamdden Merthyr Tudful wedi bod ar gau ers mis Rhagfyr 2019 oherwydd bod dŵr yn gollwng wedi effeithio ar y concrit ac wedi achosi i deils godi.

Mae Rebecca Sinnett, o Ddowlais, sy’n rhedeg grŵp cymorth i fenywod ac sy’n gwirfoddoli â phlant ag anableddau dysgu, yn un sydd wedi mynegi ei rhwystredigaeth bod Merthyr Tudful yn dal heb bwll.

Dywedodd Rebecca: “Mae’n gwbl warthus. Mae esgus ar ôl esgus.

“Mae plant yma yn dioddef oherwydd ei fod wedi bod ar gau ers pedair blynedd.”

‘Carreg y drws’

Comisiynodd y cyngor nifer o arolygon yn 2020 er mwyn ceisio dod o hyd i beth a oedd yn achosi i’r teils godi.

Ond fe wnaeth cyfnod clo Covid rwystro’r gwaith oherwydd prinder offer a chyfarpar ac wrth ymchwilio wnaeth y cyngor hefyd ddarganfod fod problemau pellach gyda’r pwll nofio.

Roedd disgwyl i’r gwaith o ailddatblygu’r pwll gael ei gwblhau yn Hydref 2023 fel rhan o fuddsoddiad £6m gan y cyngor. 

Dywedodd Rebecca Sinnett fod y grŵp o blant y mae’n gwirfoddoli gyda nhw wedi gorfod mynd i bwll Aberfan ond does dim cyfleusterau i’r anabl ac nid oedd y cawodydd yn gweithio.

Ychwanegodd bod plant yr ardal yn cael llai o gyfle i ddysgu nofio o ganlyniad, er bod treth cyngor pobl yn mynd tuag at y pwll.

Dywedodd Rebecca ei bod yn ffodus i allu teithio ond gofynnodd: “Pam ddylwn i deithio pan mae gen i un ar garreg fy nrws?”

Mae Cyngor Merthyr Tudful wedi cael cais am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.