Newyddion S4C

Un o chwe dolffin oedd yn sownd ar draeth ar Ynys Môn wedi marw

dolffin.png

Mae un o'r chwe dolffin a gafodd eu hachub ar ôl mynd yn sownd ar draeth ar Ynys Môn wedi marw.

Treuliodd gwirfoddolwyr ddiwrnod yn cynorthwyo'r dolffiniaid ar draeth Gorad ddydd Iau, nes iddyn nhw nofio allan i’r môr gyda’r nos.

Roedden nhw’n cydweithio gyda chriw Achub Bywyd Morol y Deifwyr Prydeinig, arbenigwyr morol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), personél RAF y Fali a Gwylwyr y Glannau.

Cafodd y traeth ei archwilio fore Iau ond cafodd un dolffin ei ddarganfod yn farw. 

Dywedodd CNC fore dydd Gwener: "Cafodd gwiriadau eu gwneud fore Iau ond yn anffodus cafwyd hyd i un unigolyn yn farw ar y traeth. Bydd yn cael ei gasglu ar gyfer archwiliad post-mortem gan y Rhaglen Ymchwilio i Forfilod.

Mae gan ddolffiniaid cyffredin, sy'n Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop, ddosbarthiad eang ac mae modd eu gweld o gwmpas Cymru.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.