Ffrwydrad nwy wedi lladd dau ac anafu cannoedd yn Nairobi, Kenya
Mae ffrwydrad nwy wedi lladd o leiaf dau ac anafu dros 200 o bobl yn Nairobi, prifddinas Kenya.
Fe wnaeth lori oedd yn cludo nwy ffrwydro yn ardal Embakasi yn y brifddinas am tua 23:30 ddydd Iau gan "greu pelen enfawr o dân" yn ôl llefarydd ar ran y llywodraeth.
Mae o leiaf 25 o'r rhai sydd wedi eu hanafu yn blant yn ôl adroddiadau.
Cafodd tai, busnesau a cheir eu difrodi, a'r gred yw bod y ffrwydrad wedi digwydd mewn ffatri nwy.
Dywedodd tystion wrth y cyfryngau lleol eu bod wedi teimlo cryndod y syth ar ôl y ffrwydrad.
Dywedodd Croes Goch yn y wlad fod eu criwiau wedi bod yn "brwydro yn ddiflino yn erbyn y fflamau".
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth, Isaac Mwaura, fod ardal y ffrwydrad wedi cael ei reoli a bod canolfan yn cael ei chreu er mwyn cyd-lynu gwasanaethau achub.
Inline Tweet: https://twitter.com/KenyaRedCross/status/1753215619015508096