Canolfannau sy’n cynnal gigs yn wynebu’r ‘storm berffaith’
Mae perchennog tafarn boblogaidd yng Nghaerdydd wedi dweud ei bod hi’n “storm berffaith” i leoliadau annibynnol sydd yn ceisio cynnal digwyddiadau cerddorol.
Mae’r tafarn Porter's wedi symud i leoliad newydd yn Barrack Lane yng nghanol y ddinas ers dechrau'r flwyddyn, ar ôl i’w les yn eu cartref gwreiddiol ers 2012 yn Harlech Court ddod i ben.
Mae’r busnes yn un o 17 lleoliad ar draws Cymru sydd wedi elwa o fuddsoddiad allan o gronfa cyfalaf Cerdd Cymru Greadigol, sydd yn werth £718,000.
Cafodd y buddsoddiad ei gyhoeddi yn ystod Wythnos y Lleoliadau Annibynnol.
Dywedodd perchennog y busnes, Dan Porter, y byddai wedi bod yn “amhosib i gario ymlaen” gweithredu fel busnes heb y buddsoddiad.
'Datblygu a thyfu'
“Alla i ddim dweud digon pa mor anodd yw hi i leoliadau cerdd ar y funud – mae popeth yn ein herbyn mewn storm berffaith,” meddai.
“Does gen i ddim amheuaeth, heb gymorth fel hwn, y byddai hi wedi bod yn amhosib i ni gario ‘mlaen, a byddai artistiaid a chynulleidfaoedd wedi colli lleoliad arall.
“Diolch i bawb sydd y tu ôl i’r gronfa am eu gweledigaeth ac am ein helpu i fwrw ‘mlaen â’r hyn ddechreuon ni yn 2012 ac am roi llwyfan i ni ar gyfer datblygu a thyfu yn y dyfodol.”
Mae'r cyllid wedi eu helpu hefyd i wneud eu lleoliad newydd yn fwy addas i gwsmeriaid anabl.
“Mae’n gigs ni wastad wedi bod am ddim, a ninnau nawr - diolch i’r gronfa - yn fwy hygyrch nag erioed, does dim i rwystro’n cynulleidfaoedd rhag ymuno â ni.”
'Cynyddu cynulleidfaoedd'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: "Mae'r Gronfa Cyfalaf Cerdd wedi creu newid mawr yn y diwydiant cerddoriaeth.
“Bydd cyfleusterau gwell yn ychwanegu at y defnydd o leoliadau, yn denu artistiaid gwell ac yn cynyddu maint y cynulleidfaoedd.
“Bydd hyn i gyd yn dod â budd economaidd uniongyrchol i fusnesau cerddoriaeth, eu cadwyni cyflenwi a'r diwydiant cyfan.
"Er gwaethaf yr hinsawdd economaidd anodd, rydym wedi gweld nifer o leoliadau newydd yn agor yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf.
"Rwy’n dymuno’r gorau i Dan a’i dîm yn Porters yn eu cartref newydd."
Y lleoliadau eraill sydd wedi elwa o’r gronfa yw: Le Public Space, Gwesty’r Cwmcarn a The Cab yng Nghasnewydd, Misfits Social Clwb a Stiwdio Acapela yng Nghaerdydd, Claddgell y Banc yn Aberystwyth, Bar Caffi Cerddoriaeth Fyw Bourton ym Margoed, Merthyr Labour Club and Institute Ltd, Patriot Home of Rock yng Nghrymlyn, Clwb y Bont ym Mhontypridd, Afan Ales and Fine Wines ym Mhort Talbot, Canolfan Gymraeg Saith Seren a ROC2 Studios yn Wrecsam, CWRW yng Nghaerfyrddin, CellB ym Mlaenau Ffestiniog, The Bunkhouse, Abertawe.
Llun: Facebook/Porter's