Pont newydd 'allweddol' rhwng y gogledd a'r de yn agor yn swyddogol
Pont newydd 'allweddol' rhwng y gogledd a'r de yn agor yn swyddogol
Fe fydd pont newydd ar draws afon Dyfi ger Machynlleth yn agor i’r cyhoedd am y tro cyntaf ddydd Gwener.
Roedd disgwyl i’r gwaith o adeiladu Pont Dyfi gael ei gwblhau yn ystod y gwanwyn y llynedd, ond bu oedi yn sgil problemau gyda chyflenwi adnoddau.
Bydd y bont newydd gwerth £46 miliwn ar agor i gerbydau yn ogystal â thrigolion sydd am ddefnyddio’r llwybr cerdded.
Fe gafodd y bont sydd yn 1.2km o hyd, ei hadeiladu i gymryd lle'r hen bont, oedd yn aml yn gorfod cau oherwydd llifogydd.
Mae llwybr y bont yn cychwyn ar gyrion gogleddol Machynlleth, gan groesi’r Afon Dyfi ac ail-ymuno a ffordd yr A487 i’r dde.
Ond mae disgwyl rhagor o waith adnewyddu pellach yno, ac mi fydd ffordd yr A493 ger bythynnod Dyfi ar gau am gyfnod o hyd at fis o 10 Chwefror ymlaen, er mwyn cynnal gwaith ar y system ddraenio yno.
‘Symbol’
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, bod y bont newydd yn “symbol gweladwy” o’r newidiadau mae’r llywodraeth am wneud i’r ffyrdd yng Nghymru.
“Mae'r llwybr strategol allweddol hwn yn cysylltu gogledd a de Cymru ac yn darparu cysylltedd ar gyfer gofal iechyd, addysg, cyflogaeth a hamdden,” meddai.
“Roeddwn yn arbennig o falch o fod ymhlith y grŵp cyntaf o bobl ar feiciau i fanteisio ar y llwybr beicio a cherdded newydd sydd wedi'i integreiddio'n llawn i'r bont newydd, fel rhan o rwydwaith teithio llesol ehangach sy'n cael ei ddatblygu ym Machynlleth a'r cyffiniau.
“Mae hyn yn dangos sut y gallwn ei gwneud hi'n haws cerdded a beicio yng nghefn gwlad Cymru, yn ogystal ag yn ein trefi a'n dinasoedd mwy trefol.”