Newyddion S4C

'Bach o sioc': Pys Melyn yn cefnogi Gruff Rhys ar daith

04/02/2024
Pys Melyn

Mae’r band Pys Melyn yn dweud ei fod yn “bach o sioc” i gael y cynnig i gefnogi’r cyn aelod y Super Furry Animals, Gruff Rhys, fis yma ar ran o’i daith ddiweddaraf.

Mae aelodau'r band, Ceiri, Sion, Owain a Jac yn dod yn wreiddiol o Ben Llŷn, ac mae'r pedwar wedi bod yn chwarae cerddoriaeth gyda'i gilydd ers oedden nhw yn blant.

Mae’r band wedi tyfu mewn poblogrwydd ers rhyddhau eu senglau cyntaf yn 2018, gyda’u halbwm cyntaf, ‘Bywyd Llonydd’ yn derbyn enwebiad ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Cymru yn 2021.

Cafodd eu hail albwm ‘Bolmynydd’ ei ryddhau'r llynedd, gyda Gruff Rhys ymhlith y rhai a fu'n ei ganmol yn gyhoeddus.

Nawr mae’r band yn edrych ymlaen i ymuno â’r canwr o Fethesda mewn cyngherddau yn Lerpwl, Bryste ac Arberth, wrth iddo hyrwyddo ei albwm diweddaraf, 'Sadness Sets Me Free'.

Dywedodd Ceiri Humphreys, lleisydd y band: “Mae o [Gruff] 'di bod yn rhannu pethau ni a bod yn gefnogol mewn ffyrdd gwahanol, ers dipyn ac mi oedd o’n bach o sioc ar ôl iddo gysylltu efo ni i ofyn i ni gefnogi fo. 

"'Da ni wedi bod yn gwrando ar ei stwff o ers oeddan ni’n blant.”

Ychwanegodd Jac Williams, y gitarydd bas: “Mae Gruff wedi bod yn gefnogol iawn ohono’ ni. Doeddan ni ddim yn disgwl o rili. Mae un o’i ganeuon o, ‘Ni yw y Byd’, yn un o’r gynhara’ i mi gofio clywad erioed, un o fy atgofion cyntaf o miwsic.

“Fydd o bach yn nervewracking pan fyddan ni’n troi i fyny probably gan bo nhw wedi gwerthu allan, felly ella bod nhw’n bach o step i fyny. Da ni’n falch o gael chwarae un gig ar y daith yng Nghymru hefyd.”

Image
Pys Melyn

Pobl yn ‘fwy agored’ i’r Gymraeg

Nod Pys Melyn eleni yw rhyddhau “o leiaf un albwm”, tra’n hefyd yn parhau i berfformio mewn gigs a gwyliau cerddorol megis Focus Wales yn Wrecsam a Gwŷl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog.

Mae’r band wedi perfformio mewn sesiwn byw arbennig ar orsaf BBC Radio 6 Music eisoes eleni ac mae’r aelodau yn credu fod cynulleidfaoedd yn Lloegr a thramor yn cofleidio cerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg bellach.

“Dwi’n meddwl fod artistiaid Cymraeg wastad yn neud yn dda tu allan i Gymru dros y blynyddoedd, ond dio ddim yn neccessarily yn leinio i fyny efo be sydd fwyaf poblogaidd yng Nghymru ar y pryd,” meddai Jac.

“Mae 'na elfen o ffenest siop pan ti’n gigio yn Lloegr dwi’n meddwl hefyd.”

Ychwanegodd Ceiri:  “’Da ni wedi chwarae gigs yn Lloegr o’r blaen, un sioe yn Durham a taith efo Melin Melyn, ag mi oedd o’n sioc i weld faint mor dda oedd cerddoriaeth Cymraeg yn mynd i lawr dros y bordor, a hefyd pan oeddan ni yn perfformio yn Llydaw blwyddyn dwytha.

“Mae o fel bod yn fwy agored i wrando ar gerddoriaeth mewn ieithoedd gwahanol rŵan. Ond os oes ‘na tri boi yn dod i fyny ato’n ni ar diwadd gig a deud, ‘odd hwna’n grêt’, ma huna’n ddigon rili.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.