Newyddion S4C

Cyngor Ceredigion yn wynebu ‘sefyllfa ariannol anghredadwy o anodd’

31/01/2024
Bryan Davies

Mae Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion wedi dweud bod y sir yn wynebu “sefyllfa ariannol anghredadwy o anodd”.

Mae’n bosib bydd cynnydd treth cyngor o 13.9% “yn angenrheidiol” yn y sir meddai'r Cynghorydd Bryan Davies.

Dywedodd y byddai peryg y byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd drosodd  eu gwasanaethau os nad oedden nhw’n codi trethi er mwyn talu eu costau.

Byddai'r cyngor yn hoffi gwneud “cymaint yn fwy” ond doedden nhw ddim yn gallu gwneud hynny oherwydd “yr amseroedd caled yma,” meddai.

“Dwi wedi bod yn gynghorydd sir am dros 10 mlynedd,” meddai. “Nid wyf erioed wedi gweld sefyllfa ariannol mor heriol. 

“Nid oes un cynghorydd byth eisiau codi’r Dreth Cyngor, a dwi, fel fy nghyd-gynghorwyr, yn bendant ddim eisiau gweld cynnydd o fath ar drigolion Ceredigion sydd eisoes yn teimlo’r wasgfa ariannol."

Dywedodd fod peidio codi'r dreth ar draws y Deyrnas Unedig yn “symud baich treth i lefel lleol, sy’n gwbl annheg".

Hynod o anodd’

Dywedodd adroddiad ar gyfer aelodau Cabinet y cyngor ar 23 Ionawr, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Gyllid, y Cynghorydd Gareth Davies, fod yr awdurdod wedi derbyn 2.6% yn unig o gynnydd fel rhan o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/45 - y 14eg isaf o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Ychwanegodd nad oedd hi'n bosibl i "ddiogelu gwasanaethau" yn sgil y "pwysau cost sylweddol".

“Dyma gyllideb fwyaf llym eto gan Gyngor Sir Ceredigion, ac yn waeth nag a ragwelwyd yn flaenorol,” dywedodd yr adroddiad.

“Mae canlyniad Setliad Dros Dro Cyllid Llywodraeth Leol, ynghyd â nifer o grantiau penodol yn cael eu torri, yn ogystal â phwysau cost sylweddol iawn ar wasanaethau, sydd yn golygu nad yw’n bosibl bellach i ddiogelu’r gwasanaethau.

“Erbyn hyn mae dewisiadau cyllidebol hynod o anodd ei gwneud fel rhan o bwyso a mesur sut a ble i leihau cost gwasanaethau’r cyngor, ochr yn ochr ag ystyried y lefel briodol o gyllid i’w godi drwy’r dreth gyngor.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.