Newyddion S4C

Cyhoeddi cytundeb allai weld gwleidyddion Gogledd Iwerddon nôl yn Stormont

31/01/2024

Cyhoeddi cytundeb allai weld gwleidyddion Gogledd Iwerddon nôl yn Stormont

Gallai gwleidyddion Gogledd Iwerddon ail ymgynnull yng Nghynulliad Stormont ddydd Gwener, wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi cytundeb arwyddocaol.  

Mae disgwyl i ddeddfwriaeth gael ei chymeradwyo yn San Steffan ddydd Iau, a fyddai'n galluogi gwleidyddion Gogledd Iwerddon i ddychwelyd i Stormont wedi dwy flynedd.

O dan y cytundeb newydd, ni fydd archwiliadau arferol ar nwyddau sy'n croesi o Gymru Lloegr neu'r Alban ar draws y môr i Ogledd Iwerddon. 

Anghytundeb am reolau masnach a gwirio nwyddau wedi Brexit, sydd wedi arwain at yr oedi cyn ail ymgynnull yn Stormont.      

Daw'r datblygiad diweddaraf, ar ôl i blaid unoliaethol y DUP gyhoeddi eu bod wedi dod i gytundeb â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod oriau mân fore Mawrth. 

Roedd y DUP wedi cadw draw o Stormont am bron i ddwy flynedd mewn protest yn erbyn y trefniadau masnach wedi i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.   

Plaid weriniaethol Sinn Féin sicrhaodd y nifer mwyaf o bleidleisiau yn yr etholiad diwethaf yn 2022, ac mae hynny'n golygu mai Michelle O'Neill fydd yn cael ei henwebu yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, a'r tro cyntaf i wleidydd gweriniaethol arwain y cynulliad yn Stormont.  

'Gwaith enfawr'

Dywedodd Llywydd Sinn Féin Mary Lou McDonald y bydd honno yn "foment hynod o arwyddocaol." 

Ond roedd hi'n cydnabod fod "gwaith enfawr" eto i'w gyflawni er mwyn adfer grym yn Stormont.

Mewn datganiad yn San Steffan brynhawn Mercher, dywedodd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Chris Heaton-Harris ei bod yn amser bellach i wleidyddion Gogledd Iwerddon "ddod at ei gilydd a chydweithio."  

Ychwanegodd y bydd y cytundeb hwn yn troi'n gyfraith a bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei drafod ddydd Iau.

Rhan bwysig o'r broses, meddai, yw gweld Michelle O'Neill yn Brif Weinidog  gan nodi ei fod yn "edrych ymlaen" i gydweithio gyda Sinn Féin.

Aelod o blaid unoliaethol y DUP fydd y Dirprwy Brif Weinidog. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.