Newyddion S4C

Effaith sgandal Swyddfa'r Post yn 'amddifadu cymuned o wasanaethau'

30/01/2024

Effaith sgandal Swyddfa'r Post yn 'amddifadu cymuned o wasanaethau'

Mae pryderon yn Nefyn nad oes unrhyw un yn dymuno rhedeg Swyddfa'r Post yno oherwydd sgandal system ddiffygiol Horizon. 

Yn ôl yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, mae’r sefyllfa yn amddifadu cymuned o wasanaethau.

Mae Swyddfa'r Post Nefyn wedi bod ar gau ers Medi 2023. 

Yn ol Liz Saville-Roberts, er gwaethaf peth diddordeb i gymryd y gwasanaeth drosodd, mae'r rheini wedi cael eu tynnu'n ôl oherwydd y sylw i system ddiffygiol gyfrifiadurol Horizon.  

Dywedodd wrth Newyddion S4C fod “staff ofn gweithio oherwydd y diffyg trust o’r system gyfrifiadurol”.

“Dwi wedi gofyn i’r Swyddfa Bost a fydde nhw yn ystyried cael fan Outreach i ddod i Nefyn a’r ateb oedd ‘na’, gan fod fan eisoes yn dod i Edern.

Dwi’n meddwl bod gan y Swyddfa Bost ddyletswydd i gymunedau fel Nefyn i sicrhau fod y gwasanaeth yn gyraeddadwy i bobl.”

Mae neges wedi ei gadael ar  y safle yn Nefyn yn nodi: “Gyda thristwch mawr yr ydym yn cadarnhau y bydd ein cangen o’r Swyddfa Bost sydd yma ar ein safle yn cau yn barhaol.”

Ychwanega, oherwydd “gofynion uchel a’r straeon erchyll diweddar o gwmpas y system Horizon, yr ydym yn ei chael hi’n anodd penodi aelodau o staff sydd yn barod i ymgymryd â’r gwaith o redeg y cownter.”

Mae Liz Saville Roberts wedi cael cynnig cyfarfod gyda’r Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach yn San Steffan, i drafod yr effaith y mae sgandal Swyddfa'r Post yn ei chael ar gymunedau yn ei hetholaeth. 

Dywedodd Kevin Hollinrake AS: “Mae'n bwysig iawn bod gan ein dinasyddion - ein defnyddwyr - hyder yn Swyddfa'r Post. Mae system Horizon yn cael ei newid. Hyd y gwn i, ni fu erioed achos o gwsmer ar ei golled oherwydd system Horizon, ond rwy'n hapus iawn i gwrdd â'r Aelod i drafod ei hachos yn Nefyn.”

Siom 

Mae pobl ardal Nefyn wedi eu siomi.

“Mae’r peth yn hollol hurt. Mi ddyla’ nhw sylweddoli be ma nhw’n neud” meddai’r Cynghorydd Anwen Davies o Gyngor Gwynedd.

Mae Nicola Wood, goruchwyliwr yn Siop Spar, Nefyn lle roedd Swyddfa'r Post wedi’i lleoli yn gyfarwydd iawn â sgandal Horizon. Cafodd ei chwaer, Lorraine Williams oedd yn gyn-isbostfeistr yn Llanddaniel-fab ar Ynys Môn ei chyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug. 

“Mae o’n gyfrifoldeb mawr ac os ydi’r system dal yn faulty, dydi o ddim yn disgyn ar y bobl, ond y perchennog ond ma’n dal yn gyfrifoldeb iddyn nhw.”

Mae Swyddfa’r Post wedi ymateb gan ddweud fod y  ddrama ddiweddar yn ddarlun o gyfnod "cywilyddus" yn ei hanes. Ond eu bod yn "croesawu" ei effaith wrth "annog dioddefwyr sgandal Horizon"  i ddod ymlaen. Maen nhw’n ychwanegu y byddan nhw yn gwneud "popeth posib i gefnogi postfeistri."

Wrth nodi sefyllfa Nefyn, mae Swyddfa’r Post yn dweud fod swyddfa Tudweiliog yn agos, bod modd cyrraedd yno ar drafnidiaeth gyhoeddus a bod y swyddfa ar agor chwe bore yr wythnos ar hyn o bryd.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.