Newyddion S4C

Swyddogion Tata i wynebu ASau dros benderfyniad i gau rhan o waith dur Port Talbot

31/01/2024
Tata Steel Port Talbot

Bydd swyddogion gweithredol cwmni Tata Steel yn cael eu holi gan ASau ddydd Mercher yn dilyn penderfyniad y cwmni i gau ffwrneisi ym Mhort Talbot.

Bydd gwleidyddion ac arweinwyr undebau hefyd yn ymddangos gerbron y pwyllgor Materion Cymreig, gan gynnwys Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies.

Mae disgwyl i weithwyr dur brotestio y tu allan i'r Senedd yn San Steffan i rybuddio am yr effaith ar swyddi wrth gau'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot.

Bydd 2,800 o swyddi yn cael eu colli yn y gwaith dur, gyda dros 300 o swyddi eraill yn diflannu yn y dyfodol.

Mae Tata yn bwriadu cynhyrchu dur mewn dull mwy llesol i'r amgylchedd. Oherwydd hynny, byddai angen llai o weithwyr ym Mhort Talbot.

Dywedodd y pwyllgor ei fod eisiau ddeall effaith y penderfyniad ar y diwydiant dur yng Nghymru, y gymuned leol ac economi Cymru.

Bydd dyfodol sector dur y DU hefyd yn cael ei drafod.

'Dinistriol'

Dywedodd Alasdair McDiarmid, ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol undeb Community, y byddai "cytundeb gwael ar gyfer dur yn ddinistriol i economi Cymru."

“Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r achos dros ein cynllun credadwy ar gyfer Port Talbot a diwydiant dur Cymru i’r Pwyllgor," meddai.

“Byddai bargen wael Llywodraeth y DU ar gyfer dur yn ddinistriol i economi Cymru ac yn fygythiad difrifol i sofraniaeth a diogelwch y DU.

“Rydym yn falch iawn bod meinciau Llafur wedi cefnogi’n cynllun mor gryf, ynghyd ag ymrwymiad cadarn i fuddsoddiad gwerth £3 biliwn yn ein diwydiant dur dros y degawd nesaf.

“Ar y pwynt tyngedfennol hwn, mae angen i ni weld llawer mwy o uchelgais gan y llywodraeth bresennol, y mae ei gweinidogion dros yr wythnos ddiwethaf yn unig wedi gwrthod cadarnhau a ydyn nhw’n meddwl y dylai’r DU hyd yn oed gael y gallu i gynhyrchu dur crai."

'Hanfodol'

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: “Os yw Tata wedi ymrwymo i ddur yn y DU ac eisiau elwa o’r buddsoddiad hwnnw – fel maen nhw eisoes wedi dweud – mae’n hanfodol eu bod yn gwrando ar alwad Llafur i beidio â gwneud unrhyw ‘benderfyniadau nad oes modd gwneud tro pedol’ am Bort Talbot tan ar ôl yr etholiad cyffredinol.

“Mae hynny’n golygu rhoi’r cynllun o’r neilltu i gau’r ddwy ffwrnais chwyth a gwneud diswyddiadau torfol.”

Dywed Tata ei fod yn colli £1 miliwn y dydd, gan ychwanegu y bydd y newid i gynhyrchu dur glanach yn arbed miloedd o swyddi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.