Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â chynlluniau i wahardd fêps untro

30/01/2024

Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â chynlluniau i wahardd fêps untro

Mae defnydd fêps nad oes modd eu hail-ddefnyddio wedi treblu ymhlith pobl ifanc rhwng 11 ac 17 oed.

Mae hynny wedi creu her i ysgolion ar hyd a lled y wlad. Bore 'ma, cyhoeddodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Rishi Sunak - ei fod am fynd i'r afael a hynny er lles iechyd plant.

Mae athrawon sydd wedi bod yn ceisio taclo'r broblem wedi croesawu hynny. Ni'n hapus iawn gyda'r datblygiad hwn. Ni'n gobeithio bydd e'n cael ei weithredu'n syth ac nid mewn cwpl o flynyddoedd. Tan bod hwn yn cael ei weithredu, bydd fêps dal ar gael a bydd cynnydd yn nifer y plant sy'n eu defnyddio.

Hefyd mae angen neud yn siŵr bon ni'n gweithredu ar y siopau bach sy'n dal i werthu i bobl ifanc pan nad ydyn nhw fod i. Hefyd cadw llygad ar y rhai sy'n anghyfreithlon ac sy'n cynnwys pethau nad y'n nhw fod fel cyffuriau.

Mae arolwg gafodd ei gynnal llynedd yn awgrymu fod yna gefnogaeth i gael gwared ar fêps sydd ond yn cael eu defnyddio unwaith.

Dyma'r farn ym Mangor.

Mae lot o bobl isio neud o am bod pawb arall yn neud o. Mae 'di neud pobl yn sâl. Mae'n wrong. Mae'n amser iddyn nhw fynd. I fi y broblem ydy dw i'n gweld nhw ar y llawr yn bobman. Dw i ddim yn gwybod lot am yr health benefits. Mae'n siwr bon nhw'n well na normal sigarets. Dw i jest ddim yn licio'r litter.

Mae gynnon nhw liwiau fflachiog a pethau. Dw i jest yn meddwl mae dipyn bach o trickery'n mynd 'mlaen. Maen nhw'n gwybod be maen nhw'n neud.

Dyw'r siopwr hwn yng Nghaernarfon ddim yn gwrthwynebu gwahardd fêps defnydd un tro chwaith. Mae dim yn neud impact mawr i ni. Na any other vape really. Os tio efo'r un pod system ti'n spendo £10. Mae savings yn fan'na os to ddim ar y disposables.

Dyw'r cynllun ddim heb ei feirniaid. Mae'r diwydiant fêpio yn rhybuddio bydd mwy o fêps anghyfreithlon ar gael a'r rheiny o bosibl yn beryglus. Maen nhw'n dadlau bod fêps nad oes modd eu hail-ddefnyddio wedi helpu miliynau o bobl i roi'r gorau i smygu.

Tra'n cydnabod hynny, galw am reolau cryfach mae rhai. 'Sgin i ddim dwywaith am y peth. Does dim rheswm i neb ddefnyddio fêp. Ddim ond i roi'r gorau i smygu. Fel meddyg a meddygon mewn gwledydd fatha Awstralia dyna'r unig ddefnydd o fêp.

Dy'n nhw ddim yn cael eu gwerthu mewn siopau. Os dach chi isio prynu sigarennau mewn siopau maen nhw tu ôl i gwpwrdd a dach chi ddim yn gweld y pacedi. Dach chi'n gallu prynu fêp yr eiliad dach chi yn y siop.

Mae'r bocsys yn lliwgar. Mae'r blasau yn teip o flasau fysa plant yn gymeryd. Mae'n warthus bod o wedi mynd ymlaen cyn hired.

Mae llywodraethau Cymru a'r Alban wedi deud eu bod nhw am eu gwahardd. Byddan nhw'n gweithio ar y cyd gyda Llywodraeth Prydain i gael y maen i'r wal.

Mae problem plant yn fêpio wedi bod ar gynnydd ers tro a'r ymgyrch i daclo hynny yn dechrau codi stêm.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.