Newyddion S4C

Dyfed Edwards wedi ei gadarnhau yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd y Gogledd

30/01/2024
Dyfed Edwards

Ar ôl ymgymryd â'r rôl dros dro ers mis Chwefror 2023, mae Dyfed Edwards bellach wedi cael ei benodi yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd sy'n cael y gefnogaeth fwyaf gan Lywodraeth Cymru yn sgil cyfres o fethiannau difrifol yn ymwneud â pherffomiad, diogelwch cleifion a phrinder staff, yn ogystal ag ymadawaid nifer o uwch swyddogion.  

Cafodd ei benodi’n ffurfiol i’r swydd gan y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan ddydd Mawrth. 

Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Mr Edwards: "Mae’n anrhydedd cael y cyfle hwn a byddaf yn parhau i roi popeth i’r swydd ac i wasanaethu’r Bwrdd Iechyd a phobl Gogledd Cymru.

“Mae iechyd, a’r system iechyd a gofal yn cyffwrdd â phob un o’n bywydau ar adegau gwahanol ac mae’n rhan allweddol o’r ffabrig cymdeithasol sy’n cynnal ein cymunedau yng Ngogledd Cymru. 

"Rydym yn gwybod bod y Bwrdd Iechyd wedi bod yn tanberfformio ac yn methu o ran cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf i’n cymunedau ond dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi cyfarfod â llawer o staff anhygoel ac wedi gweld rhai gwasanaethau gwych. 

"Rydw i’n teimlo’n freintiedig o gael ymuno â’r tîm cryf o 19,000 o staff yn Betsi ac rydw i’n gwybod eu bod yn rhannu fy uchelgais i ac uchelgais y Bwrdd i wneud gwelliannau parhaus i iechyd a lles poblogaeth Gogledd Cymru ac o ran darparu eu gwasanaethau gofal iechyd.

“Rydym yn dechrau gweld cynnydd da ac rydw i’n edrych ymlaen at barhau â’r daith i greu sefydliad mwy effeithiol.”

Betsi Cadwaladr, yw bwrdd iechyd mwyaf Cymru, sydd â 19,000 o weithwyr yn gwasanaethu mwy na 700,000 o bobl ar draws Gwynedd,  Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Pedair blynedd yw tymor cadeirydd y bwrdd iechyd.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.