Beth ddigwyddodd rhwng Guto Bebb a Phlaid Cymru?
Nid pawb fyddai'n ymwybodol efallai fod cyn-AS Ceidwadol blaenllaw wedi bod ar un adeg yn Gadeirydd Plaid Cymru mewn un o'u hetholaethau pwysicaf yn y gogledd.
Mewn cyfnod cyn iddo ddod yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Aberconwy, roedd Guto Bebb yn gynghorydd tref, a chadeirydd etholaeth gyda Phlaid Cymru yn Arfon.
Felly beth yn union achosodd y gwleidydd sydd V'i wreiddiau mor ddwfn yn y mudiad cenedlaethol i newid ei liwiau, troi ei gefn ar Blaid Cymru ac ymuno â'r Torïaid yn San Steffan?
Wrth iddo gael ei holi fel gwestai ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru nos Sul, fe eglurodd Mr Bebb ei fod yn teimlo fod rhai o'i "agweddau ddim yn dderbyniol o fewn [Plaid Cymru]" a bod un digwyddiad penodol wedi achosi iddo sylweddoli hynny.
'Rhy asgell dde'
“Mae ‘na sawl un wedi dweud wrtha i ‘mod i’n rhy asgell dde i Blaid Cymru," meddai.
“Ond mi oeddwn i’n cicio yn erbyn y tresi ac mae’n debyg fy mod i ychydig bach yn rhy ymosodol yn fy agweddau efallai ac yn rhy barod i ddweud bod angen gwneud pethau’n wahanol."
Fe gafodd Mr Bebb ei fagu mewn teulu o genedlaetholwyr Cymreig, gan ei fod hefyd yn ŵyr i un o sylfaenwyr Plaid Cymru.
Fe aeth y cyflwynydd, Beti George, ymlaen holi am ddylanwad y diweddar Ambrose Bebb ar wleidyddiaeth ei ŵyr, ac fe soniodd Mr Bebb am y cyfle cyntaf ddaeth i geisio sefyll i ddod yn Aelod Seneddol Plaid Cymru.
'Dilyn Dafydd Wigley'
“Fe ddaru’r cyfle i gynnig fy enw i ddilyn Dafydd Wigley, ac fe ddaru fi wneud hynny, a dyna fo, ddaru fi ddim llwyddo, fe ddaru Hywel Williams ddod yn haeddiannol yn llwyddiannus ar y noson," meddai.
“Ond yr hyn sydd wedi cael ei ddweud dros y blynyddoedd ydi fy mod wedi cael fy mhechu gan Blaid Cymru bryd hynny, ond dydy hynny ddim cweit yn gywir."
Ar ôl methu sicrhau enwebiad ei blaid yn Arfon, fe aeth Mr Bebb ymlaen i gynnig ei hun fel ymgeisydd yng Ngorllewin Clwyd rai misoedd wedyn, gan ei fod yn teimlo fod ardal Llansannan "yn agos at ei galon" wedi iddo dreulio rhan o'i blentyndod yn yr ardal.
"Dwi’n cofio mynd yno a dwi’n meddwl mod i wedi perfformio’n reit dda, ond ches i ddim o’r enwebiad," meddai.
“Noson honno, mi ffoniodd y cyfieithydd fi a rhoi gwybod i mi fod 'na genadwri wedi dod o’r brif swyddfa yng Nghaerdydd, nad oeddwn i ddim i gael fy newis."
Diwedd y daith
O'r foment honno ymlaen, fe sylweddolodd Mr Bebb nad oedd dyfodol iddo fel gwleidydd Plaid Cymru.
“Dwi’n meddwl mai dyna oedd diwedd y daith i mi a dweud y gwir, mi ddaru mi gario mlaen am rai misoedd fel cadeirydd rhanbarth Arfon o Blaid Cymru," meddai.
“Ond erbyn hynny, dwi’n meddwl mod i wedi dod i’r casgliad nad oedd rhai o fy agweddau i ddim yn dderbyniol o fewn y blaid."
Fe ymunodd â'r blaid Geidwadol, ac am nifer o flynyddoedd fe gafodd Guto Bebb ei ddewis fel ymgeisydd y blaid mewn gwahanol etholaethau ar draws Cymru, cyn iddo gael ei ethol yn AS dros Aberconwy yn 2010.
Ar ôl colli chwip y blaid Geidwadol, fe ddaeth gyrfa Guto Bebb fel Aelod Seneddol i ben ym mis Tachwedd 2019.
Erbyn hyn, mae'n gweithio fel Prif Weithredwr Undeb Amaethwyr Cymru.