Newyddion S4C

Dim cynllun Gŵyl y Dyn Gwyrdd ar Fferm Gilestone wedi i bâr o weilch nythu yno

29/01/2024

Dim cynllun Gŵyl y Dyn Gwyrdd ar Fferm Gilestone wedi i bâr o weilch nythu yno

Mae cynllun a gostiodd miliynau o bunnoedd i Lywodraeth Cymru i helpu Gŵyl y Dyn Gwyrdd drwy brynu Fferm Gilestone ym Mhowys wedi dod i ben wedi i bâr o weilch nythu yno.

Dywedodd gweinidog economaidd Cymru, Vaughan Gething mai “diogelu’r adar yw ac a fydd y flaenoriaeth fwyaf”.

O ganlyniad roedd hi’n “amhosibl mwyach i wireddu amcanion masnachol ac elusennol llawn Grŵp y Dyn Gwyrdd,” meddai.

Roedd trefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi bwriadu defnyddio y fferm ar gyfer rhai digwyddiadau, gyda'r brif ŵyl yn aros ym Mharc Glanwysg.

Roedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i brynu fferm Gilestone am £4.25m yn un dadleuol wedi i Archwilio Cymru awgrymu eu bod nhw wedi bod ar ormod o frys i wneud hynny.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi prynu’r fferm fel rhan o ymdrech i ddiogelu dyfodol Gŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething ar y pryd mai’r nod oedd sicrhau “cartref parhaol” i’r cwmni a’u bod nhw wedi dilyn y broses gywir a'i bod yn werth am arian.

Ond ddydd Llun cyhoeddodd Vaughan Gething na allai’r ŵyl symud yno wedi’r cwbl.

Dywedodd ei fod “yn destun syndod a llawenydd i Lywodraeth Cymru glywed fis Awst diwethaf fod pâr o weilch y pysgod wedi penderfynu nythu ar safle Fferm Gilestone”.

“O ystyried pwysigrwydd hanesyddol y datblygiad hwn, mae lles yr adar a'u nyth wrth gwrs yn flaenoriaeth bennaf.”

Mewn datganiad dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Fiona Stewart: "Er ein bod yn amlwg yn siomedig na fydd y prosiect yn mynd yn ei flaen ar Fferm Gilestone, byddwn nawr yn edrych ar gyfleoedd eraill.

“Mae tîm Green Man yn estyn ei ddiolchgarwch dwysaf i bawb sydd wedi cefnogi Prosiect Fferm Gilestone. 

“Mae'r ymateb aruthrol a'r syniadau arloesol a rennir gan y gymuned wedi bod yn ddim llai nag ysbrydoledig."

‘Hynod bwysig’

Mae gweilch y pysgod, yn rhywogaeth Atodlen 1 sy'n cael ei gwarchod o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Dyma’r tro cyntaf iddynt gael eu gweld mor bell i'r de yng Nghymru ers tua 200 mlynedd.

Dywedodd Vaughan Gething ei fod wedi comisiynu adroddiad ar ddiogelwch yr adar a’i fod yn argymell creu parth gwarchod o 750m o gwmpas y nyth ar y fferm lle bydd cyfyngiadau trwm ar unrhyw weithgarwch gan bobl.

“Mae’r ffaith bod gweilch y pysgod wedi cyrraedd ac wedi adeiladu nyth yn ddatblygiad hynod bwysig ym myd natur,” meddai.

“Mae'n debyg bod gweilch y pysgod yn tueddu i ddychwelyd i'r un safle nythu maen nhw wedi’i ddewis ac yn wir i atgyfnerthu’r nyth a adeiladwyd.

“Gallwn felly ddisgwyl i’r adar ddychwelyd i Gilestone yn ystod gwanwyn eleni.”

‘Barod i wrando’

Cyfeiriodd Vaughan Gething hefyd at rywfaint o’r cecru o amgylch dyfodol Fferm Gileston.

Yn 2022 bu’n rhaid i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ymchwilio wedi i’r gweinidog addysg Jeremy Miles a'r gweinidog newid hinsawdd Julie James gyfarfod â phennaeth Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Fe wnaeth cwestiynau godi am y berthynas rhwng gweinidogion a lobïwyr yn dilyn y cyfarfod anffurfiol.

Ond daeth y Prif Weinidog i’r casgliad ar sail ymchwiliad nad oedd y cyfarfod rhwng y gweinidogion a phennaeth Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn groes i'r Cod Gweinidogol.

Fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig feirniadu canfyddiadau’r ymchwiliad.

Ddydd Llun dywedodd Vaughan Gething: “Rydym bob amser yn barod i wrando ond nid yw Gweinidogion Cymru yn newid ein penderfyniadau oherwydd bygythiadau gan drydydd partïon, gan gynnwys lle codir materion sydd heb gysylltiad o gwbl ag amcanion y polisi dan sylw. 

“Mae'n drueni bod y trafodaethau am Fferm Gilestone ambell waith wedi dirywio i’r categori hwn.

“Mae'r un mor siomedig bod swyddogion etholedig a phartneriaid busnes wedi bod yn destun ymosodiadau parhaus a phersonol ynglyn â'r mater hwn.

“Fel y mae'r Prif Weinidog wedi’i ddweud yn y Senedd, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd y materion hyn o ddifrif ac mae'n destun pryder bod menywod yn benodol wedi dioddef beirniadaeth bersonol a sarhaus sydd heb le yn ein cymdeithas.”

‘Colled’

Ychwanegodd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys bod y newyddion am bresenoldeb nyth Gweilch y Pysgod yn Gilestone “yn gyffrous”.

Ond fe ychwanegodd bod “colli prosiect gyda photensial economaidd, cymdeithasol a diwylliannol o’r fath yn golled fawr i Bowys.

“Bydd llawer yn Nhalybont a’n cymunedau ehangach yn cael eu siomi, yn enwedig y rheini fel fi sy’n dymuno gweld gwell cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol o bobl ifanc ym Mhowys.

“Mae'n destun pryder bod penderfyniad beiddgar ac arloesol Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r Dyn Gwyrdd wedi cael ymateb mor negyddol ac, ar brydiau, yn ymrannu â phegynnu pobl.

"Ond roedd yn galonogol gweld bod cyfran sylweddol o bobl Tal-y-bont ar Wysg a’r ardal ehangach yn gefnogol iawn i amcanion y prosiect.

“Talaf deyrnged hefyd i Fiona Stewart a gwytnwch ei thîm wrth ymdrin â’r materion hyn.”

Wrth ymateb i'r newyddion diweddaraf, dywedodd Jane Dodds AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: “Mae’n galonogol clywed am y darganfyddiad diweddar o nyth Gweilch ar Fferm Gilestone a hoffwn ddiolch i’r rhai a gymerodd ran am gymryd y camau cywir i sicrhau diogelwch yr adar godidog hyn.

"Byddai'r prosiect arfaethedig gan y Dyn Gwyrdd wedi dod â manteision economaidd mawr eu hangen i Bowys. Gobeithio y bydd trafodaethau pellach ar y ffordd orau o ddatblygu cyfleoedd i bawb, yn enwedig ar gyfer ein pobl ifanc ym Mhowys, gan sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at swyddi yn eu cymunedau lleol.

"Hoffwn ddiolch i’r Dyn Gwyrdd am y manteision cadarnhaol a ddaw yn ei sgil i Bowys a gobeithiwn y bydd cyfleoedd pellach i ddatblygu yn y dyfodol.

"Gobeithiwn y bydd cymuned Talybont nawr yn gallu symud ymlaen, ac i drigolion symud ymlaen yn bositif ar gyfer dyfodol y gymuned wych hon."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.