Newyddion S4C

Diwrnod Cofio’r Holocaust: Galw ar bobl i fod yn wyliadwrus o'u hiaith wrth drafod hanes Iddewon

27/01/2024
Nathan Abrams

“Mae’n bwysig iawn i feddwl am ein hiaith fel bod ni’n gwybod sut i siarad am bobl eraill heb swnio’n hiliol.”

Wrth nodi Diwrnod Cofio’r Holocaust ddydd Sadwrn, mae un Cymro Iddewig wedi galw ar unigolion i fod yn fwy gofalus am yr iaith maen nhw’n ei ddefnyddio wrth drafod hanes ei bobl. 

Ac mae hynny wedi dod hyd yn oed yn fwy pwysig yn ystod y misoedd diwethaf yn sgil rhyfela yn y dwyrain canol, meddai’r Athro Nathan Abrams o Brifysgol Bangor. 

“Dydy o ddim yn gwrth-semitiaidd i gefnogi’r Palesteiniaid neu i siarad yn erbyn Israel, ond mae sut ‘dych chi’n deud hynny yn bwysig iawn,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.

‘Cymerwch ofal wrth siarad’

Fel sylfaenydd yr elusen, JewTh!nk, dywedodd ei fod yn hollbwysig i bobl “bod yn fwy exact gyda sut maen nhw’n siarad.” 

Ac er nad yw’n dod yn “wyneb yn wyneb” gydag ymddygiad gwrth-semitiaidd yn aml yn ei dre’ lleol, dywedodd ei fod wedi gweld nifer o sylwadau o’r fath ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Mae’n rhybuddio y gallai geirfa megis “Zionist lobby” a “conspiracies” fod yn gwrth-semitiaidd, ac mae’n annog pobl i fod yn wyliadwrus o’u hiaith ar-lein. 

If it walks like a duck and it quacks like a duck then it is a duck,” meddai.  

“Beth dwi eisiau i bobl cofio ydy pan ‘dych chi’n siarad, pan ‘dych chi’n sgwennu rhywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol, byddwch yn ofalus sut dachi’n siarad. 

“Dyna’r peth pwysicaf dwi eisiau pobl dysgu o’r Holocaust.”

Mae diwrnodau cofio yn hanfodol wrth gofio am hanes yr Iddewon, ychwanegodd Mr Abrams. 

“Mae’n bwysig iawn i gofio am be 'nath digwydd i’r Iddewon a phobl eraill yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

“Ond be’ dwi eisiau dweud ydy; mae pobl yn deud bod rhaid i’r Iddewon dysgu gwersi o’r Holocaust ond pam bod rhaid iddyn nhw gofio ac nid y rhai wnaeth cyflawni’r troseddau? 

“Mae'n bwysig iawn i bobl eraill cofio a dysgu’r gwersi – nid yr Iddewon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.