‘Anhapus iawn’: Jeremy Miles yn cwestiynau’r modd y penderfynodd undeb enwebu Vaughan Gething
‘Anhapus iawn’: Jeremy Miles yn cwestiynau’r modd y penderfynodd undeb enwebu Vaughan Gething
Mae un o’r ddau ymgeisydd yn ras arweinyddol Llafur Cymru wedi codi cwestiynau am y modd y penderfynodd undeb Unite i enwebu'r ymgeisydd arall.
Dywedodd Jeremy Miles bod nifer o fewn yr undeb yn “anhapus iawn” am y modd y penderfynodd undeb Unite enwebu Vaughan Gething.
Cyhoeddodd Unite ar 24 Ionawr eu bod nhw am enwebu Vaughan Gething fel arweinydd newydd Llafur Cymru.
Ond mae aelodau wedi codi cwestiynau ynglyn â pham na chafodd pleidlais o’r aelodaeth ei chynnal.
Dywedodd Jeremy Miles mai ei ddealltwriaeth ef oedd ei fod wedi ei ddatgan yn “anghymwys” dan reol nad oedd yn ymwybodol ohoni ac nad oedd wedi ei argyhoeddi oedd yn bodoli.
Dywedodd fod gan aelodau hawl i ddisgwyl fod rheolau “yn dryloyw ac yn cael eu defnyddio’n deg".
“Ni chafodd y rheol newydd hon ei datgan pan gefais wahoddiad gan Unite i fynychu a chymryd rhan yn yr hystingau enwebu,” meddai.
“Ni chyfeiriwyd ato ychwaith yn ystod yr hystingau.
“Ar ôl i’r hystingau ddod i ben, methodd arweinyddiaeth Unite â sôn am y peth wrthyf. Hyd yn hyn, nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod y rheol hyd yn oed yn bodoli.”
‘Ddim yn gymwys’
Wrth ymateb, dywedodd undeb Unite eu bod nhw’n fodlon bod y broses o enwebu ymgeisydd yn deg.
“Yn ystod cyfarfod Pwyllgor Cyswllt Plaid Lafur Unite Cymru, cafodd yr enwebai dan sylw eu cyfweld ac fe ystyriwyd eu haddasrwydd,” meddai llefarydd wrth Newyddion S4C.
“Fodd bynnag, penderfynodd Cynhadledd Rheolau Unite y llynedd y bydd Unite ‘yn cymeradwyo’n ffurfiol ymgeiswyr sydd wedi dal swydd leyg etholedig fel cynrychiolwyr gweithwyr’ yn unig.
“O dan y rheol hon nid oedd yn gymwys i gael ei enwebu.
“Mae Unite yn fodlon bod y broses enwebu wedi’i chynnal yn gywir.”
Dywedodd llefarydd ar ran ymgyrch Vaughan Gething: “Rydym yn falch i groesawu enwebiad Unite ar gyfer Vaughan Gething fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru.”
Roedd cadeirydd Llafur Rhondda ymysg y rheini i fynegi ei siom nad oedd cyfle i aelodau’r undeb bleidleisio ar y mater.
“Fel aelod hirsefydlog a stiward siop ers blynyddoedd lawer, rwy’n siomedig nad ydych wedi gofyn i’r aelodaeth ar bleidlais mor bwysig,” meddai.
Fe fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn gadael ei swydd fel arweinydd y Blaid Lafur ym mis Mawrth, ac fe fydd arweinydd newydd yn cael ei ethol erbyn y Pasg.