Newyddion S4C

Ysbyty iechyd meddwl yn Wrecsam wedi 'gwneud gwelliannau sylweddol'

26/01/2024
new hall.png

Mae ysbyty iechyd meddwl yn Wrecsam oedd "yn peri pryder" bellach wedi gwneud gwelliannau sylweddol, yn ôl arolygwyr.

O ganlyniad mae statws gwasanaeth Ysbyty Annibynnol New Hall fel un "sy'n peri pryder" wedi ei ddileu. 

Mae'r ysbyty preifat yn cael ei reoli gan Mental Health Care UK, ac yn darparu gofal arbenigol ar gyfer hyd at 10 claf rhwng 18 a 64 oed sydd wedi cael diagnosis o anableddau dysgu ac anhwylderau meddyliol.

Cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) adroddiad ddydd Gwener wedi adolygiad dirybudd o'r ysbyty ar dri diwrnod olynol ym mis Hydref y llynedd. 

Roedd yr ysbyty wedi ei ddynodi fel Gwasanaeth sy'n Peri Pryder wedi  adolygiad blaenorol ym mis Mawrth 2023. 

Roedd AGIC  wedi gorchymyn y safle i beidio derbyn unrhyw gleifion newydd yn sgil lefel y risgiau, gan gynnwys sawl gwall wrth roi meddyginiaethau, argaeledd cyfarpar cynnal bywyd ac achosion o dorri rheolau diogelwch tân.

Dywed yr adroddiad fod gwelliannau sylweddol wedi eu gwneud yn ystod yr arolygiad diweddar ac nad yw'r ysbyty bellach yn Wasanaeth sy'n Peri Pryder. 

Cyfathrebu

Ychwanegodd yr adroddiad fod staff yn cyfathrebu â'r cleifion mewn ffordd "garedig a pharchus" a bod prosesau da ar waith i gefnogi a diogelu anghenion corfforol y cleifion.

Yn ôl arolygwyr, roedd rheolwyr a staff yn dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o'r cleifion, ac roeddent yn ymateb i ymddygiad heriol mewn "ffordd ddigynnwrf a phriodol".

Roedd staff hefyd yn cyfathrebu â chleifion mewn ffordd "bersonol a brwdfrydig".

Dywed yr adroddiad er bod y lleoliad yn lân ac mewn cyflwr da yn gyffredinol, roedd rhai risgiau diogelwch o ran cynnal a chadw.

Mae'r adroddiad yn nodi bod trefniadau cryfach wedi eu gweld o ran storio, mynediad a gwirio cyfarpar brys, gyda'r cyfarpar bellach yn cael ei storio mewn lleoliad priodol, ac roedd staff yn ymwybodol o'r lleoliad.

Ychwanegodd arolygwyr bod yr adborth a gafwyd gan y staff yn gadarnhaol ar y cyfan, a roedd bron pob aelod o'r staff yn cytuno y byddan nhw yn fodlon gyda safon y gofal i'w ffrindiau neu deuluoedd. 

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC Alun Jones: "Mae'n galonogol gweld bod gwelliannau wedi'u gwneud ers ein harolygiad blaenorol o Ysbyty New Hall er mwyn sicrhau bod y cleifion yn cael gofal diogel ac effeithiol.

"Mae'n rhaid i'r lleoliad sicrhau bod y mesurau hyn yn parhau i fod yn weithredol a bod y prosesau a roddwyd ar waith yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol. 

"Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r gwasanaeth er mwyn sicrhau y bydd y cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau yn mynd yn ei flaen ac yn cael ei wella."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.