Newyddion S4C

Sir Fynwy am gyfieithu arwyddion i'r Gymraeg wedi'r cwbl

25/01/2024
Arwyddion Castell Cas-Gwent

Mae cyngor yn ne Cymru wedi penderfynu cyfieithu enwau strydoedd i’r Gymraeg  wedi'r cwbl pan mae arwyddion newydd yn cael eu gosod.

Roedd Cyngor Sir Fynwy wedi torri  eu safonau eu hunain ar yr iaith Gymraeg wrth benderfynu ym mis Rhagfyr 2021 i beidio â chyfieithu enwau strydoedd mwyach.

Ond daeth cadarnhad yr wythnos hon fod y cyngor wedi gwneud tro pedol.

Roedd Comisiynydd y Gymraeg wedi penderfynu ym mis Awst 2022 fod y cyngor wedi torri safonau’r iaith drwy gefnu ar eu polisi blaenorol.

Yn ôl  y Comisiynydd, roedd rhoi’r gorau i gyfieithiadau Cymraeg yn golygu bod y cyngor yn gwneud llai er lles yr iaith nag o’r blaen ac yn gwrthdroi’r polisi “gweithredu blaengar” mewn perthynas â’r Gymraeg.

Daeth yr achos i sylw’r comisiynydd yn dilyn cwyn gan aelod o'r cyhoedd, oedd yn honni fod y cyngor wedi methu ag ystyried yn iawn sut y byddai eu penderfyniad yn effeithio ar y Gymraeg.

Roedd y penderfyniad yn 2021 yn caniatáu i arwyddion oedd angen eu newid, i’w gwneud ar sail eu henw gwreiddiol – oedd yn golygu mai dim ond yn yr iaith Saesneg y cafodd sawl eu hail-osod.

Y rheswm am hynny, yn ôl y cyngor Ceidwadol ar y pryd, oedd oherwydd pryderon na fyddai’r enwau newydd yn cael eu cynnwys yn ddwyieithog gan y cofrestrydd cyfeiriadau swyddogol.

Ond bellach mae’r polisi oedd mewn defnydd cyn Rhagfyr 2021 wedi ei ail-fabwysiadu. O ganlyniad,  pan  bydd angen arwyddion newydd ar hen strydoedd ag enwau uniaith Saesneg,  bydd yr arwyddion yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg yn gyntaf.

Ni fydd unrhyw newid i bolisi’r cyngor ar enwi strydoedd newydd, a fydd yn parhau i gael eu henwi yn Gymraeg yn unig, neu yn ddwyieithog, ond byth yn Saesneg yn unig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.