Y dyn ifanc 18 oed o Gaernarfon sy'n un o'r rheolwyr pêl-droed ieuengaf yng Nghymru
Y dyn ifanc 18 oed o Gaernarfon sy'n un o'r rheolwyr pêl-droed ieuengaf yng Nghymru
Yn 18 oed, mae'n debygol iawn mai Jay Roberts o Gaernarfon ydi'r rheolwr pêl-droed ieuengaf yng Nghymru ac yn y DU ar hyn o bryd.
Mae Jay newydd gael ei benodi yn rheolwr tîm cyntaf Clwb Pêl-droed Llangoed ar Ynys Môn, ac mae hefyd yn hyfforddwr gydag Academi Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon.
"Fedrai'm disgrifio faint o ddiolchgar dwi. I fod yn hollol onast, o'dd genna fi'r idea o guro'r record o fod y youngest manager yng Nghymru, ond do'n i byth yn meddwl fysa fo actually yn digwydd," meddai wrth Newyddion S4C.
Wedi iddo ddisgyn allan o gariad gyda'r gêm fel chwaraewr ifanc, roedd Jay yn benderfynol o ail-afael yn ei angerdd at bêl-droed, a hynny fel hyfforddwr.
"O'n i'n chwarae o adegau rili ifanc fel goalkeeper so o'n i isio mynd yn bell, o'n i'n gwbod o'n i'n gallu, doedd 'na ddim llawer o goalkeepers rownd," meddai.
"Ond aeth pethau bach out of hand, nes i golli calon, nes i fynd yn unfit, methu dal fyny efo'r hogia i gyd, a wedyn oedd o jyst yn achos o bod fi isio cadw calon yndda fo achos o'dd genna fi gormod o ben i wastio so nes i feddwl 'Ai fewn i coachio' a wedyn ma' 'di dod â fi i fama."
'Gwylio'r gêm yn wahanol'
Mae Jay wedi cwlbhau ei drwydded hyfforddi UEFA C, sy'n galluogi iddo hyfforddi pêl-droed i blant.
Ond mae'n benderfynol o barhau ar ei daith fel hyfforddwr a rheolwr.
"O'n i'n isda lawr yn watchad gêmau pêl-droed, Man Utd dwi'n supportio - not a good thing these days! Ond o'n i'n watchad football a jyst yn gweld petha yn wahanol ag yn gwylio'r gêm bach yn wahanol i pawb arall," meddai.
"O'dd pobl yn mwydro a chwerthin ar ben fi yn meddwl 'Yli hwn yn meddwl bod o'n gwybod yn well, fatha Jose Mourinho' ond nath petha' bach fel 'na jyst pushio fi 'mlaen i fod isio fod yn coach."
'Enjoio bod yna'
Ag yntau dim ond yn 18 oed ac yn rheolwr ar chwaraewr hŷn, dydi hynny'n poeni dim ar Jay.
"Jyst ddim meddwl bo' fi'n well na nhw, a ddim meddwl bod achos dwi'n manager, bo' fi'n gwbod yn well, dydw i ddim.
"Achos bo' fi mond yn 18, dwi heb 'di chwara senior football, dwi 'di cael un gêm a ges i howlar!
"Ond I've not been in their shoes, dwi jyst tu ôl i'r tips a'r tricks so na'i byth feddwl bo' fi'n well na neb, dwi jyst yna i motivatio a dod â good spirit, cael pwy bynnag sydd gen i o flaen fi jyst i enjoio bod yma, as much as dwi'n enjoio fod yna."
Yn gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Tref Caernarfon, mae gan Jay obeithion mawr ar gyfer y dyfodol.
"Ti'n sôn am y long-term goal, dwi'n meddwl ma' hwnna reit obvious," meddai.
"Dwi'n isda yn y sêt yma rwan (yn yr Oval), dwi'n sbio ar y cae yma rwan, a dwi'n sbio ochr arall y cae lle ma'r dugout...'swn i wrth fy modd yn isda yn fan 'na un dwrnod.
"Ond, rhaid fi roi credit, be' ma' Rich (Richard Davies) yn neud efo'r hogia ar y funud efo Caernarfon Town, di'r cyfla yna ddim yn dod anytime soon - ond ella un diwrnod..."