Dau ddyn o Gymru'n pledio'n euog i fod yn rhan o gynllwyn i dorri organau cenhedlu
(Rhybudd - gall cynnwys yr erthygl isod beri loes)
Mae dau ddyn wedi cyfaddef bod yn rhan o gynllwyn i dorri organnau cenhedlu a'u dangos mewn fideos arlein.
Plediodd David Carruthers, 61, a Janus Atkin, 37, o Gasnewydd yng Ngwent, yn euog ddydd Iau i gynllwynio i gyflawni niwed corfforol difrifol rhwng 2016 a 2022.
Roedden nhw'n ran o gynllwyn i dynnu a thorri pidynau a cheilliau, ysbaddu trwy glampio, a gosod nodwyddau yn yr organau cenhedlu.
Roedd y cynllwyn yn cynnwys postio'r fideos ar wefan o'r enw 'eunuch maker'.
Gohiriodd y Barnwr Mark Lucraft KC y ddedfryd i 4 a 5 Mawrth, ochr yn ochr â chyd-gynllwynwyr eraill.
Ni ofynnwyd i drydydd dyn, Stefan Scharf, 61, i bledio i'r un cyhuddiad ac fe gafodd ei achos ei ohirio am wythnos.
Cyn hynny, roedd arweinydd y cynllwyn, Marius Gustavson, 46, o Haringey yng ngogledd Llundain, wedi cyfaddef i gyfres o gyhuddiadau yn yr Old Bailey.
Y gred yw bod y cynllwyn wedi ymwneud â hyd at 29 o droseddau o addasiadau corff eithafol yn cynnwys 13 o bobl, gan gynnwys tynnu rhannau o'r corff.
Honnir bod y gweithgareddau wedi’u ffilmio a’u huwchlwytho i wefan 'eunuch maker' oedd yn cael ei redeg gan Gustavson. Roedd tanysgrifwyr yn talu i’w gwylio.
Cafodd 10 dyn eu harestio ar ôl cyrchoedd heddlu yn Llundain, yr Alban a de Cymru.
Honnir eu bod yn rhan o gymdeithas o bobl oedd yn fodlon dioddef addasiadau corff eithafol.
Mae’r arferiad yn gysylltiedig â math o ddiwylliant lle mae dynion yn dod a defnydd o'u organau cenhedlu i ben – trwy ddisodli eu pidyn a’u ceilliau.
Roedd Carruthers, Atkin a Scharf wedi ymddangos yn yr Old Bailey trwy fideo ar gyfer y gwrandawiad byr gerbron y Barnwr Lucraft.