Ymgynghoriad statws iaith ysgol ym Machynlleth yn agor

Mae cyfnod ymgynghori ar statws iaith ysgol ym Machynlleth wedi agor.
Mae cynnig i droi Ysgol Bro Hyddgen yn ysgol ffrwd Gymraeg cyntaf y sir bellach wedi dechrau, yn ôl The National Wales.
Ddydd Mercher fe anogodd Cyngor Powys i bobl leol anfon eu barn am droi’r ysgol ddwyieithog yn ysgol cyfrwng Cymraeg, ac mae cyfle i bobl leisuo’u barn am y 28 diwrnod nesaf.
Mae’r cynllun wedi bod yn un dadleuol gyda rhai o bobl yr ardal o'r farn fod y system bresennol yn fwy cynhwysol.
Mae’r ysgol ar hyn o bryd yn gymysgedd o ddwy ysgol - Ysgol Gynradd Sirol Machynlleth ac Ysgol Bro Ddyfi.
Fe fyddai’r newid yn digwydd yn raddol, gan ddechrau gyda’r dosbarth derbyn ym mis Medi 2022.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Google Maps