Newyddion S4C

Eden Hazard yn cwrdd â 'ball boy' yr Elyrch 11 mlynedd ar ôl rhoi cic iddo

25/01/2024
Charlie Morgan ac Eden Hazard

Ydych chi'n cofio pan wnaeth Eden Hazard roi cic i 'ball boy' CPD Abertawe?

Bellach mae'r bachgen hwnnw, Charlie Morgan yn un filiwnydd ac yn un o berchnogion cwmni AU Vodka, a mae e a Hazard wedi cwrdd am y tro cyntaf ers y digwyddiad 11 mlynedd yn ôl.

Roedd Chelsea yn colli i Abertawe yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Gynghrair, ac wrth geisio cael y bêl oddi ar Charlie Morgan a oedd yn gorwedd ar lawr, fe roddodd Hazard gic iddo.

Derbyniodd Hazard garden goch ac fe aeth Abertawe ymlaen i ennill y gêm a'r gystadleuaeth.

11 mlynedd ers y diwrnod yn union bron, mae'r ddau wedi rhannu llun ohonyn nhw'n gwenu yn siriol ar gyfrifon cymdeithasol AU Vodka ac Eden Hazard.

Dywedodd Hazard, sydd wedi ennill tlysau wrth chwarae yn Ffrainc, Sbaen a Lloegr, ei fod yn "braf cwrdd â hen ffrindiau" ers iddo ymddeol.

Ychwanegodd fod Charlie Morgan wedi dod yn bell yn ei yrfa ers y digwyddiad yn Stadiwm Swansea.com yn 2013.

Ar ei gyfrif Instagram, dywedodd Charlie Morgan: "Aduno â hen ffrind."

Llun: Eden Hazard / Asiantaeth Huw Evans

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.