Codi trethi ar ail dai yng Nghasnewydd – er mai dim ond 15 sydd yno
Mae cynghorwyr wedi pleidleisio i godi trethi ar ail dai yng Nghasnewydd – er i arolwg awgrymu mai dim ond 15 o dai o’r fath sydd yn y ddinas.
Fe awgrymodd Matthew Evans, arweinydd yr wrthblaid Geidwadol ar y cyngor, “nad oedd pwynt mynd ar ôl” cyn lleied o berchnogion ail dai.
Ond dywedodd y Cynghorydd Llafur Dimitri Batrouni ei bod yn “well atal y broblem na’i datrys”.
Pleidleisiodd y cyngor yn y pen draw o blaid cynyddu trethi 100% ar ail dai o fis Ebrill 2025, a hefyd tai gwag yn y ddinas o fis Ebrill eleni.
Clywodd y cyngor fod tai gwag yn fwy o broblem gyda 830 ohonynt yn y ddinas a mwy na 9,000 o bobol ar restrau aros ar gyfer tai cymdeithasol.
Dywedodd arweinydd y cyngor Jane Mudd fod “diffyg tai yn gyffredinol” ac y byddai codi trethi ar dai gwag “yn annog perchnogion i’w hadfer nhw i ryw fath o ddefnydd”.
“Mae’n newid y mae pobol Casnewydd yn awyddus i’w weld,” meddai.
Fe ychwanegodd y cynghorydd James Clarke sy’n gyfrifol am dai nad oedd codi trethi yn “hudlath” (magic wand) a fyddai yn datrys y broblem ond y byddai yn “help”.
Bydd y cynnydd 100% mewn trethi yn berthnasol i dai yng Nghasnewydd sydd wedi bod yn wag am flwyddyn neu fwy.
Fe fydd yna eithriadau ar gyfer pobol sydd yn cynnal gwaith ar eu tai.