Gall nofio mewn dŵr oer leddfu symptomau'r menopos, medd ymchwil
Gall nofio mewn dŵr oer leddfu symptomau corfforol a meddyliol y menopos, medd astudiaeth newydd.
Mae menywod sy’n nofio mewn dŵr oer yn fwy tebygol o ddiodde’ llai gyda hwyliau isel, gorbryder a chyfnodau poeth (‘hot flushes’), meddai’r gwaith ymchwil.
Ac mae’r dŵr oer wedi “achub bywyd” un fenyw, meddai, a hithau’n teimlo fel ei bod yn gallu “gwneud unrhywbeth yn y dŵr”.
Dywedodd y fenyw 57 oed bod pob un o’i symptomau yn “diflannu” a’i bod yn teimlo ar ei gorau yn y dŵr oer.
Dywedodd 46.9% o fenywod bod nofio o’r fath wedi lleddfu symptomau eu gorbyder, tra oedd 34.4% yn dioddef llai gyda hwyliau oedd yn isel neu'n afreolus.
Dywedodd 21% o fenywod yr oedd y gweithgaredd wedi gwella eu patrwm cysgu, ac roedd 37.6% yn llai “pigog” yn eu hwyliau.
Roedd menywod oedd yn nofio’n fwy cyson ac am gyfnodau hirach yn fwy tebygol o weld newid yn eu symptomau, medd ymchwilwyr.
'Cymerwch ofal'
Cafodd y gwaith ymchwil ei gynnal gan Goleg Prifysgol Llundain (UCL) holodd rhwng 1,114 o fenywod, rhwng 16 ac 80 oed, a fu’n nofio mewn dŵr oer yn rheolaidd.
Roedd y rhan fwyaf o fenywod a gafodd eu holi rhwng 45 a 59 oed, ac roedd 785 o’r sampl gyfan yn byw â’r menopos ar y pryd.
Dywedodd awdur y gwaith ymchwil, Athro Joyce Harper: “'Dyn ni’n gobeithio bod ein canfyddiadau yn cynnig opsiwn arall i fenywod sy’n dioddef gyda’r menopos ac yn annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn chwaraeon."
Ond mae’n rhybuddio hefyd bod rhaid cymryd gofal wrth nofio mewn dŵr oer, gan rybuddio’n benodol yn erbyn hypothermia, sioc dŵr oer, aflonyddwch i rythm y galon a boddi.