Hen dafarn boblogaidd i ailagor ei drysau yng Nghaerdydd
Mae disgwyl y bydd hen dafarn boblogaidd yng Nghaerdydd yn ailagor ei drysau i gwsmeriaid sychedig, flynyddoedd ar ôl iddi gau.
Fe wnaeth drysau tafarn y Westgate ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen gau yn 2016, gyda’r cyn-berchnogion, Brains, yn nodi ar y pryd bod gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid yn rhan o'r penderfyniad i werthu.
Ond mae’n edrych yn debyg y bydd yn ailagor fel bar eto ar ôl i is-bwyllgor trwyddedu Cyngor Caerdydd gymeradwyo cais am drwydded safle mewn cyfarfod ddydd Mercher.
Adeiladwyd yr eiddo rhestredig Gradd II ym 1932 gan Syr Percy Thomas - dyn sy’n cael y clod am godi rhai o adeiladau mwyaf adnabyddus y de, gan gynnwys Y Deml Heddwch ym Mharc Cathays a Neuadd y Dref Abertawe.
Adloniant
Yn dafarn boblogaidd gyda chefnogwyr ar ddyddiau gemau yn Stadiwm Principality, Parc yr Arfau, Swalec SSE a stadiwm Dinas Caerdydd, mae’r dafarn wedi ei lleoli ger Parc Bute a Chastell Caerdydd.
Ar ôl iddi gau fe gafodd ei phrynu a'i throi'n gartref, ond yn 2023 aeth yr eiddo i ddwylo Adrian Hibbert.
Dywedodd neges Facebook gan y perchnogion newydd ym mis Tachwedd eu bod yn gobeithio agor yr adeilad yn gynnar yn 2024 a chynnal amrywiaeth o adloniant, gan gynnwys cerddoriaeth fyw, bingo, nosweithiau cwis, carioci a chwaraeon byw.
Caniatawyd cais am drwydded alcohol ar y safle yn amodol ar nifer o amodau a osodwyd gan y tîm rheoli llygredd lleol, gan gynnwys atal gwerthu alcohol o hanner nos ymlaen o ddydd Iau i ddydd Sul ac am 01:00 o ddydd Gwener i ddydd Sadwrn.