Dyn 66 oed wedi marw ar ôl i'w fws mini rolio drosto
Mae dyn 66 oed wedi marw ar ôl i'w fws mini ei hun rolio nôl drosto.
Bu farw’r dyn wedi iddo gamu o’i gerbyd, sef bws mini Mercedes lliw du, ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun.
Dywedodd yr heddlu bod y “gwrthdrawiad difrifol” wedi achosi anafiadau angheuol iddo.
Roedd y gwasanaethau ambiwlans a thân yn bresennol ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle, meddai Heddlu De Cymru.
Mewn datganiad, dywedodd yr Arolygydd Craig Bannister: “Am oddeutu 14.10 ddydd Llun, 22 Ionawr, digwyddodd gwrthdrawiad angheuol ar ffordd ym Mhenryn, Mynydd Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr.
“Mae teulu’r dyn yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
“Mae Adran Plismona Ffyrdd Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw lygad-dystion oedd yn bresennol adeg y gwrthdrawiad, neu unrhyw un sydd â recordiad dashcam i gysylltu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400024861.”