
‘Pryderon difrifol’ am ddyn o Aberdâr aeth ar goll ddeufis yn ôl
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn “hynod o bryderus” am les dyn o Aberdâr aeth ar goll ddeufis yn ôl.
Mae tystiolaeth CCTV yn dangos bod Ricky Harris wedi cael ei weld yn gyhoeddus am y tro olaf ym Maes-Y-Deri am oddeutu 14:20 brynhawn Sadwrn, 18 Tachwedd 2023.
Mae swyddogion yr heddlu yn parhau i apelio am ragor o wybodaeth ynglŷn â’i ddiflaniad, gan ddweud bod ganddyn nhw “bryderon difrifol” amdano.
Mewn datganiad dywedodd y Ditectif Arolygydd Owain Morrison: “Mae gennym ni bryderon sylweddol am les Ricky, ac rwy’n gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld neu siarad â Ricky yn y dyddiau neu’r wythnosau cyn iddo fynd ar goll ar 18 Tachwedd – neu unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth arall ynglŷn â’i leoliad – i gysylltu â ni.
“Yn dilyn ein hapêl flaenorol, mae nifer o bobl eisoes wedi cysylltu â’r llu gan ein darparu ni â gwybodaeth hanfodol ynglŷn â beth ddigwyddodd i Ricky.
“Rwyf yn deall bod nifer o bobl yng nghymuned leol Aberdâr wedi gofyn am ddiweddariad, ac er ein bod yn ceisio ymdrechu i ymateb i’r cyhoedd, ein prif nod yw dod o hyd i Ricky.
“Rydym yn parhau i chwilio amdano, ac mae swyddogion yn dal i gynnal ymchwiliadau,” meddai.
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Morrison fod teulu Ricky Harris yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol a'u bod yn cael eu diweddaru gydag unrhyw ddatblygiadau.
