Gwahardd dau rhag cadw anifeiliaid wedi tân mewn gwarchodfa gathod
Mae dau ddyn wedi’u hatal rhag cadw anifeiliaid anwes am 10 mlynedd wedi iddyn nhw gyfaddef eu bod nhw wedi methu a darparu cartref addas ar gyfer 24 o gathod.
Fe blediodd Martin Clowes a Gavin James Cromwell Fargam yn euog i fethu â darparu gofal addas i’r anifeiliaid, wedi i 11 o gathod cael eu canfod yn farw yn dilyn tân mewn eiddo ar Ffordd Pyle ym mis Mawrth y llynedd.
Clywodd y llys fod yr RSPCA a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi eu galw i’r eiddo, sef safle gwarchodfa gathod Jemima’s Place.
Roedd 13 o'r 24 o gathod dal yn fyw ac maen nhw bellach dan ofal yr RSPCA.
Cafodd Mr Clowes a Mr Cromwell eu dedfrydu ddydd Llun diwethaf yn Llys yr Ynadon Abertawe, gan dderbyn dedfryd o 12 wythnos yn y carchar wedi'u gohirio am 12 mis.
Cafodd y ddau eu gwahardd hefyd rhag cadw anifeiliaid am ddeng mlynedd, gyda gorchymyn i dalu £300 yr un i dalu costau a £54 o ordal dioddefwr.
Cafodd Paula Milton, un o swyddogion yr RSPCA, ei galw i’r digwyddiad. Dywedodd bod “arogl pi-pi ac ysgarthion yn gryfach nag arogl y mwg”.
“Roedd llwyth o fagiau sbwriel du yn yr ystafell fyw, a nifer yn wlyb gyda phiso ac ysgarthion.
“Roedd y pentwr wedi'i bentyrru tua thair troedfedd o uchder, ac roedd gweddill yr ystafell fyw wedi'i orchuddio gyda sbwriel a'r llawr wedi'i orchuddio ag ysgarthion.”
Daeth Ms Milton o hyd i dair cath fyw yn yr ystafell ymolchi, ac roedd yr ystafell honno hefyd wedi’i orchuddio gydag ysgarthion.
Cytunodd Mr Clowes i drosglwyddo perchnogaeth dros y cathod i’r RSPCA.
Y diwrnod wedyn fe gafodd pedair cath arall ei gyflwyno gan Martin Clowes i ddirprwy brif arolygydd y RSPCA, Gemma Cooper.
Mewn datganiad, dywedodd Ms Cooper nad oedd yr eiddo yn “ddiogel nac yn lan”.
Roedd gwresogydd trydan wedi’u gadael ymlaen y tu mewn i’r tŷ tra’r oedd neb gartre, sy’n “berygl amlwg,” ychwanegodd.
Roedd y llys hefyd wedi clywed fod 30 o gathod eisoes wedi’u cymryd oddi ar warchodfa cathod Jemima’s Place mewn iechyd gwael yn 2021 pan gyfaddefodd Clowes a Cromwell na allen nhw ymdopi.