Newyddion S4C

Clirio llanastr Isha wrth baratoi am storm Jocelyn

22/01/2024
storm isha porthcawl.png

Wedi i storm Isha achosi difrod sylweddol ar hyd a lled Cymru, gyda miloedd yn colli eu cyflenwad trydan, mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio fod storm arall ar y gorwel. 

Jocelyn yw enw'r storm nesaf ac mae disgwyl iddi daro Cymru rhwng prynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher, gyda rhybudd melyn am wyntoedd cryfion 

Y gred yw y bydd hi'n cyrraedd ei phenllanw am hanner nos, nos Fawrth, gyda'r gwyntoedd yn chwythu ar gyflymder o 45-55 mya, ac o bosib 65 mya ar hyd yr arfordir.  

Ddydd Llun, mae'r gwaith clirio yn parhau wedi storm Isha, gyda nifer o goed wedi disgyn ar draws ffyrdd, a'r gwaith o drwsio clebau trydan a gafodd eu difrodi yn cael ei gwblhau.  

Cafodd mwy na 1,400 o gartrefi yn Sir Gaerfyrddin eu gadael heb bŵer ar un cyfnod nos Sul, gyda 500 wedi eu colli eu cyflenwad yng Nghastell Nedd Port Talbot a 500 yn Sir Benfro.

Cafodd hyrddiadau o 90mya eu cofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri ddydd Sul.

Mae storm Isha wedi achosi trafferion mawr yn yr Alban, gyda chadarnhad ddydd Llun fod dyn 84 oed wedi marw. 

Roedd e'n deithiwr mewn car a darodd yn erbyn coeden a oedd wedi disgyn yn Grangemouth ddydd Sul, yn ôl Heddlu'r Alban.  

Ac yn ôl adroddiadau, mae dyn wedi marw yn sir Derry yng Ngogledd Iwerddon, wedi i goeden ddisgyn ar ei gar tra roedd yn gyrru yn Limavady nos Sul. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.