Perchnogion tai wedi elwa o werthu yn 2023
Mae perchnogion tai yng Nghymru a Lloegr a werthodd eu heiddo'r llynedd wedi elwa o £100,000 ar gyfartaledd yn ôl ymchwil.
Roedd cwmni gwerthu tai Hamptons wedi edrych ar dai a werthwyd yn 2023 gan bobl oedd wedi eu prynu yn y 20 mlynedd diwethaf.
Yn ôl yr ymchwil, cafodd y tai a werthwyd yn 2023 eu gwerthu am £102,650 yn fwy na’r pris prynu ar draws Cymru a Lloegr, ar gyfartaledd.
Yng Nghymru roedd y ffigwr cyfartalog yn £71,470.
Roedd 95% o bobl yng Nghymru wedi gwerthu am fwy na’r hyn a dalwyd am eu tai.
Roedd 8% ar draws Cymru a Lloegr dim ond wedi bod yn berchen ar eu tai am ddwy flynedd.
Ar gyfartaledd roedd y sawl a brynodd eu tai yn 2021 ac yna gwerthu yn 2023 wedi gwerthu am bris oedd yn £56,000 yn fwy na’r hyn a dalwyd.
Roedd y cynnydd mwyaf yng Nghymru i’w gweld yng nghymoedd y de.
Yr elw cyfartalog am werthu tŷ ym Merthyr Tudful oedd 69% neu tua £60,000.
Yn Rhondda Cynon Taf y ffigwr oedd 65% neu thua £54,530.
Ym Mlaenau Gwent fe wnaed elw o 67% neu tua £46, 390 ar gyfartaledd.
Dywedodd Aneisha Beveridge o gwmni Hamptons: “Er i brisiau tai ostwng y llynedd roedd 93% o bobl yn dal wedi gwerthu eu tai am fwy na’r hyn a dalwyd amdanynt.
"Mae’n enillion hynny gan fwyaf yn cael eu hailfuddsoddi yn y farchnad dai a thuag at brynu tŷ arall felly yn anaml gwelir yn nhelerau arian parod.”