'Maen nhw'n aros yn rhan o'r teulu': Gofalwr maeth o Fôn yn annog rhagor i faethu
'Maen nhw'n aros yn rhan o'r teulu': Gofalwr maeth o Fôn yn annog rhagor i faethu
“Mae pob plentyn sy’n dod drwy’r drws hefo ni, ‘dyn ni’n delio â nhw union yr un fath â phlant ni ein hunain.”
Dyma eiriau un gofalwr maeth o Ynys Môn sydd yn galw am fwy o bobl i gynnig cymorth maethu i blant a phobl ifanc.
Mae Gwynfor Jones a’i wraig, Barbara, wedi bod yn maethu plant yn eu hardal leol ers 2016.
Ac er na fyddan nhw’n gallu gofalu am y plant maen nhw’n eu maethu am byth, mae pob un o’r 18 plentyn sydd wedi bod yn eu gofal yn “aros yn rhan o’r teulu.”
Yn dilyn rhybuddion fod prinder teuluoedd maeth yng Nghymru, mae Mr Jones yn awyddus i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r buddion sydd yn dod gyda maethu.
Gall derbyn gofal gan deulu maeth newid bywyd plentyn am weddill ei oes, meddai.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Gyda mabwysiadu, ‘dych chi ‘da rhywun am byth, ond pan ‘dych chi’n maethu ‘dych chi ddim yn gwybod pa mor hir fyddwch chi’n maethu’r plentyn yna.
“’Dyn ni ‘di cael plant sydd ‘di bod efo ni am jyst dros flwyddyn a ‘di mynd nôl at teulu, ond maen nhw dal yn gadw mewn cysylltiad gyda ni.”
Ychwanegodd Mr Jones: “Mae ‘na agosatrwydd ac mae ‘na gariad tuag at y plant.
“A pan mae’r plant, neu’r plentyn, yn symyd ymlaen mae o’n emosiynol i ni fel gofalwyr maeth, dim ots pa mor hir oedden nhw hefo ni, dim ots pa mor anodd mae’r lleoliad wedi bod.”
‘Gwahaniaeth’
Mae Mr Jones yn annog unigolion i beidio “ofni’r heriau” gall fod ynghlwm â maethu, gan ddweud bod bod yn ofalwr maeth “yn agored i bawb.”
“Dwi meddwl fod bobl yn ofn stepio ‘mlaen, maen nhw’n ofn yr heriau sydd yna,” meddai.
“Ond be’ ‘swn i’n dweud ydy: yndi mai ‘na heriau yna, tydio ddim yn hawdd – ond mae mor werthfawr y gwahaniaeth ‘dych chi’n ‘neud i’r plant yna.
“’Dych chi’n gweld y gwahaniaeth ‘dych chi’n ‘neud iddyn nhw o fewn yr wythnosau maen nhw’n dod atoch chi.”
Mae ‘na 7,000 o blant a phobl ifanc yn disgwyl am ofal yng Nghymru – a dim ond 3,800 o deuluoedd maeth sydd yn system ofal y wlad, yn ôl ffigyrau Maethu Cymru.
Ond mae’n “bleser” i allu chwarae rôl bwysig ym mywydau plant, meddai Mr Jones, sydd yn gawl am ragor o bobl i ystyried maethu.
‘Heriau’
Mae gwaith ymchwil diweddaraf Maethu Cymru yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â rhai o’r heriau mwyaf y gall gofalwyr maeth eu hwynebu.
Mae’n awgrymu bod plant a phobl ifanc yn y system faethu yn pryderu am ddiffyg cyflenwad bwyd, gan boeni na fyddan nhw’n cael pryd o fwyd arall yn ystod y dydd.
Esboniodd Mr Jones: “Ychydig iawn o blant sy’n dod i fewn i gofal sydd wedi cael y bwyd prydlon maen nhw’n haeddu, a’r bwyd iach maen nhw’n haeddu.”
Yn ôl Maethu Cymru, dywedodd un o bob pedwar o ofalwyr eu bod wedi maethu plentyn oedd wedi ceisio cuddio neu gadw cyflenwad cyfrinachol o fwyd.
Roedd pryder ac ansefydlogrwydd ynghylch bwyd hefyd wedi arwain at rai plant yn bwyta eu bwyd yn rhy gyflym nes iddyn nhw dagu, ag eraill yn bwyta gweddillion bwyd oddi ar y llawr.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Meinir Bebb, swyddog marchnata rhanbarthol Maethu Cymru yn y gogledd: “Mae gynnon ni blant a phobl ifanc o bob math o gefndiroedd yng ngofal maeth, rhai dim ‘di eistedd wrth y bwrdd a cael pryd o fwyd efo teulu.
“Ond mae’r sgiliau a’r profiadau sydd gan ein gofalwyr maeth yn galluogi iddyn nhw ffeindio ffordd rownd hynna – trwy gynnig sefydlogrwydd i blant fel bod nhw’n gwybod bod nhw’n dod adre’ gyda’r nos, a bod le yna iddyn nhw wrth y bwrdd.”