Rhybudd i gefnogwyr cyn y gêm ddarbi Gymreig rhwng Casnewydd a Wrecsam
Mae Heddlu Gwent yn rhybuddio cefnogwyr Casnewydd a Wrecsam i fod ar eu hymddygiad gorau cyn i'r ddau glwb herio ei gilydd yn Adran Dau ddydd Sadwrn.
Daw'r rhybudd yn dilyn adroddiadau o ymladd yng Nghasnewydd ar 6 Ionawr pan gafodd dau ddyn eu harestio ar amheuaeth o anhrefn treisgar.
Cafodd dyn 23 oed o Gasnewydd a dyn 21 oed o Bont-y-pŵl, eu harestio ar amheuaeth o anhrefn treisgar cyn cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.
Bydd swyddogion yn ymuno â Chlwb Pêl-droed Casnewydd i gadw'r cyhoedd yn ddiogel cyn y gêm yn Rodney Parade medd y llu.
Dywedodd yr Uwcharolygydd John Davies bod presenoldeb yr heddlu yno i "adnabod y rhai sy’n ymddwyn yn amhriodol."
“Rydyn ni’n gwybod y bydd llawer o gefnogwyr Casnewydd a Wrecsam yn edrych ymlaen yn eiddgar at y gêm hon ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr i’r ddinas ddydd Sadwrn.
“Bydd presenoldeb heddlu cynyddol yng Nghasnewydd ar ddiwrnod gêm i sicrhau diogelwch pawb sy’n ymweld â’r ddinas, gan gynnwys y rhai nad ydynt yng Nghasnewydd ar gyfer y pêl-droed, felly cymerwch amser i siarad â ni os oes gennych unrhyw bryderon.
“Rydym wedi gweld ymddygiad cwbl annerbyniol gan rai pobl yn dilyn gêm bêl-droed a gynhaliwyd yng Nghasnewydd yn gynharach y mis hwn, ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r clybiau dan sylw a Rodney Parade i adnabod y rhai sy’n ymddwyn yn amhriodol.
“Bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal yn cyflawni trosedd neu’n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol yn cael ei erlyn.”
Hanes
Dyma'r eildro i Gasnewydd a Wrecsam herio ei gilydd y tymor hwn.
Wrecsam oedd yn fuddugol yn y Stok Cae Ras ym mis Rhagfyr, a hynny o 2-0.
Mae'r clwb o'r gogledd yn ail yn Adran Dau, tra bod Casnewydd yn safle 17.
Mae'r ddau glwb yn hen elynion wedi iddynt frwydro am flynyddoedd yn y Gynghrair Genedlaethol, cyn i Gasnewydd godi i Adran Dau yn dilyn buddugoliaeth dros Wrecsam yn 2013.
Bydd y gêm hon yn baratoad da ar gyfer eu gemau yng Nghwpan yr FA y penwythnos nesaf, gyda'r ddau yn wynebu clybiau o gynghreiriau uwch.
Bydd Wrecsam yn teithio i Blackburn sydd yn chwarae yn y Bencampwriaeth, tra y bydd Casnewydd yn croesawu Manchester United i Rodney Parade.
Prif lun: Asiantaerh Huw Evans