Newyddion S4C

Sylfaenydd label recordiau Ankst, Emyr Glyn Williams, wedi marw yn 57 oed

18/01/2024
Emyr Glyn Williams (Wikimedia/Huw P)

Mae Emyr Glyn Williams neu 'Emyr Ankst', sylfaenydd labeli recordiau, ysgrifennwr a gwneuthurwr ffilmiau, wedi marw yn 57 oed.

Roedd yn un o sefydlwyr labeli recordiau Ankst ac wedyn Ankstmusik, oedd gyda'i gilydd, wedi rhyddhau dros 170 o recordiau, bron y cyfan gan grwpiau iaith Gymraeg.

Yn yr 1990au fe weithiodd gyda rhai o grwpiau mwyaf poblogaidd y cyfnod fel Gorky's Zygotic Mynci, Catatonia a Super Furry Animals.

Sefydlodd y cwmni recordiau Ankst ar y cyd gyda'i ffrindiau coleg Alun Llwyd a Gruffudd Jones yn 1988. Rhwng 1988 a 1997, cafodd tua 80 o recordiau eu rhyddhau cyn rhannu yn ddau gwmni ar wahân.

Cymerodd Emyr Glyn Williams reolaeth o'r ochr rhyddhau recordiau gan sefydlu label Ankstmusik.

Mae'r label wedi rhyddhau bron i gant o wahanol recordiadau gan fandiau megis Datblygu ac yn ddiweddar rhyddhau tri albwm gan Geraint Jarman.

Roedd yn briod  a'r bardd Fiona Cameron ac yn byw ym Mhentraeth, Ynys Môn.

Roedd hefyd yn awdur llyfr ac yn aelod o’r bandiau Cymraeg Siencyn Trempyn ac Arfer Anfad tra ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.

Rhyddhawyd hefyd nifer o ffilmiau ar DVD ar labeli Ankst ac Ankstmusic gan gynnwys Crymi No. 1, Crymi No. 2, Saunders Lewis vs. Andy Warhol a ‘’Faust: Nobody Knows if It Ever Happened’’ yn dogfennu gig y grŵp Almaeneg arbrofol, Faust.

Cynhyrchodd ac ysgrifennodd y ffilm ddwyieithog Y Lleill ac enillodd wobr Bafta Cymru yn 2005.

Ym mis Mawrth y llynedd roedd Datblygu wedi gweithio gydag Ankstmusik i ryddhau casgliad o draciau i ddathlu pen-blwydd 40 oed y band.

Mae cerddorion ledled Cymru wedi talu teyrnged iddo.

Dywedodd Gruff Rhys:"Pob cydymdeimlad a theulu a ffrindiau Emyr Glyn Williams - colled garw, roedd ganddo frwdfrydedd egniol dros ddiwylliant cyfiawn a bugeiliodd gerddorion lû gan gynnwys Ffa Coffi Pawb yn ddoeth drwy gorlanau di-amod Fideo 9 ac Ankst, gan ddogfenu y cyfnod fel cyfarwyddwr ffilm tanddaearol penigamp."

Mae Pat Morgan, aelod o Datblygu, wedi dweud bod Emyr Glyn Williams yn gefnogol iawn i'r grŵp.

"Oedd Emyr Glyn Willams yn dyn annwyl iawn. Yn gefnogol i ni fel grŵp mor bwysig. 
 
"Fel gŵr, tâd a ffrind, oedd e mor ddeallus am bobol. 
 
"Mae cyfraniad e gyda Recordiau Ankst wedi cael effaith mawr ar y sîn gerddorol Gymraeg, a heblaw Emyr, ble fyddwn ni nawr? 
 
"Oedd Emyr wastod yna pan oedd eisiau, llawn hiwmor, brwdfrydedd, ac yn barod i unrhywbeth. Oedd yn bleser bod yn ei gwmni. Mae'n golled fawr."

'Medrus'

Mae'r cynhyrchydd cerddoriaeth David Wrench wedi rhoi teyrnged i Emyr Williams.

"Tristwch mawr yw marwolaeth fy ffrind Emyr Glyn Williams. Adnabyddus i lawer fel Emyr Ankst," meddai.

"Mae Emyr wedi bod yn rhan hanfodol o’r sîn gerddoriaeth Gymraeg ers bod yn un o sylfaenwyr label recordio Ankst yn yr 1980au a mynd ymlaen i redeg Ankstmusic. 

"Roedd hefyd yn wneuthurwr ffilmiau, awdur a churadur medrus.

"Dangosodd Em ffydd ynof ar sawl achlysur, gan roi allan fy recordiau ar ddiwedd y 90au a bod fwy neu lai y person cyntaf i fy nghyflogi fel cynhyrchydd yn gweithio gydag actau fel MC Mabon a Zabrinski ar ddiwedd y 90au/dechrau’r 2000au.

"Roedd y tro diwethaf i mi weld Em yn syrpreis pleserus o ddarganfod fy mod ar yr un trên o Lundain i Fangor. Treulion ni’r daith gyfan yn trafod cerddoriaeth a ffilm newydd.

"Bydd colled fawr ar ei ôl. Cariad mawr at ei deulu."

'Rheolwr cyntaf'

Wrth ymateb i'r newydd am ei farwolaeth, fe ddisgrifiodd y cerddor Mei Gwynedd gyfraniad Emyr Glyn Williams i'r sîn roc Gymraeg, fel un 'enfawr'.

"Emz 'oedd ein 'rheolwr' cyntaf ni, Beganifs, ynghyd ac Alun a Gruff o label Ankst. Fyny ac i lawr yr A470 'na mewn transit fan erbyn hyn yn atgofion melys iawn! Ac drwy rhyw droad ffawd daeth yn reolwr arnai eto wedi mi ymuno fel gitarydd gyda band Geraint Jarman rhai blynyddoedd 'nol.

"Mae cyfraniad Emz tuag at y sin gerddoriaeth yn enfawr. Diolchaf yn fawr am ei gwmni drost y blynyddoedd, ac fy nghyflwyno at gymaint o gerddoriaeth. Bydd 'Let It Bleed' gan y Stones mlaen yn uchel genai drost yr wythnosa nesaf!

Dywedodd y cerddor Gai Toms ar X ei fod yn ddiolchgar iawn i Emyr Glyn Williams am ei gyfraniad i'r sîn gerddoriaeth Gymraeg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.