ASau yn pleidleisio o blaid cynllun dadleuol Rwanda
Mae Aelodau Seneddol yn San Steffan wedi pleidleisio o blaid cynllun dadleuol i anfon rhai ceiswyr lloches i Rwanda.
Er mawr ryddhad i’r Prif Weinidog, fe wnaeth digon o ASau gefnogi y cynllun, gyda 320 o blaid a 276 yn erbyn.
Daeth y bleidlais dyngedfennol wrth i bwysau gynyddu ar Rishi Sunak, wedi i ddau ddirpwy gadeirydd y Ceidwadwyr a chynorthwy-ydd gweinidogol ymddiswyddo ddydd Mawrth.
Ymddiswyddodd Lee Anderson, Brendan Clarke-Smith a Jane Stevenson o'u rôl er mwyn eu galluogi i bleidleisio dros newidiadau y maen nhw'n dadlau fyddai'n cryfhau'r ddeddfwriaeth.
Roedd yn rhaid i'r aelodau meinciau cefn sy'n gwrthryfela benderfynu os oedden nhw yn cefnogi'r bil cyflawn ai peidio nos Fercher, heb y newidiadau y maen nhw yn ei ddymuno.
Fis Tachwedd, dyfarnodd y Goruchaf Lys fod y cynllun i anfon ceiswyr lloches i Rwanda yn anghyfreithlon, gan ddadlau nad yw'n wlad ddiogel.
Wedi hynny, cyflwynodd y Llywodraeth fil newydd a oedd yn datgan yn glir o fewn cyfraith y Deyrnas Unedig, fod Rwanda yn wlad ddiogel.