Newyddion S4C

S4C: Llywodraeth Cymru eisiau rôl ehangach wrth benodi Cadeirydd

17/01/2024
Rhodri Williams

Dylai Llywodraeth Cymru chwarae rôl ehangach wrth benodi Cadeirydd S4C yn ôl y gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros ddiwylliant.

Dywedodd Dawn Bowden bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gallu argymell Cadeirydd newydd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ond mai Ysgrifennydd Diwylliant y DU oedd yn penderfynu.

Daw ei sylwadau yn y Senedd wedi i Gadeirydd presennol S4C ddweud nad yw am gael ei ystyried ar gyfer ail gyfnod yn y rôl.

Bydd cyfnod presennol Rhodri Williams (uchod) yn Gadeirydd S4C yn dod i ben ar 31 Mawrth.

Mae Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Lucy Frazer, wedi dweud y bydd yn “cadarnhau’n fuan y trefniadau ar gyfer dewis Cadeirydd newydd”.

Ond wrth ateb cwestiynau yn y Senedd, dywedodd Dawn Bowden ei bod yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gael rôl ehangach yn y broses yn y dyfodol.

“Rydw i’n cytuno y dylai Llywodraeth Cymru chwarae rôl fwy ffurfiol a cryfach yn y broses yma,” meddai.

“Mae hyn wedi amlygu’r ffaith bod angen i ni gael trafodaethau gyda DCMS [yr adran diwylliant a darlledu] ac S4C ynglŷn â sut allwn ni symud hyn ymlaen yn y dyfodol.

“Rydyn ni mewn sefyllfa unigryw i gael rôl ehangach yn S4C os yw darlledu yn cael ei ddatganoli ai peidio.

“Rydw i’n credu y gallai Llywodraeth Cymru chwarae rôl ehangach oherwydd y berthynas unigryw sydd gan y sianel â Chymru.”

Roedd hi’n ymateb i gwestiynau gan Llŷr Huws Gruffydd o Blaid Cymru a Tom Giffard o’r Blaid Geidwadol.

Roedd gan Lywodraeth Cymru eisoes rôl gryfach wrth graffu ar BBC Cymru drwy femorandwm dealltwriaeth gyda Llywodraeth y DU, meddai'r gweinidog.

Image
Dawn Bowden
Dawn Bowden

‘Cyfrifoldeb’

Fe ychwanegodd Dawn Bodwen eu bod nhw wedi sefydlu panel arbenigol yn edrych ar ddatganoli darlledu a bellach wedi derbyn eu hadroddiad nhw.

“Mae yna gonsensws - nid yn unig rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru - ond yn ehangach ar draws Cymru,” meddai.

“Dyw’r fframwaith darlledu bresennol ddim yn cwrdd ag anghenion Cymru.”

Dywedodd hefyd ei bod hi wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ym mis Tachwedd am S4C ac wedi cwrdd ar 10 Ionawr.

“Yn ystod y cyfarfod hwnnw gofynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i fi a oeddwn i’n credu y dylai'r Cadeirydd [S4C, Rhodri Williams] gael ei ddiswyddo,” meddai.

“A siarad yn blaen doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn addas i fi wneud y penderfyniad hwnnw gyda’r ychydig wybodaeth a oedd gen i wrth law.

“A hefyd ar y sail nad oedd yn fater oedd wedi ei ddatganoli i Gymru. Roedd yn teimlo fel ei bod yn ymdrech i guddio rhag eu cyfrifoldeb nhw i wneud penderfyniad.”

Image
Sian Doyle
Cyn-Brif Weithredwr S4C, Sian Doyle

Diswyddo

Daw ymadawiad Rhodri Williams wedi cyfnod cythryblus i’r sianel, yn dilyn honiadau o fwlio.

Collodd Prif Weithredwr S4C, Sian Doyle ei swydd gyda’r darlledwr wedi i adroddiad gan gwmni cyfreithiol Capital Law gael ei gyhoeddi fis Rhagfyr.

Roedd y ddogfen yn nodi fod tystiolaeth staff yn amlygu ymddygiad honedig y Prif Weithredwr "fel un a gafodd yr effaith fwyaf arwyddocaol negyddol ar yr amgylchedd waith ac awyrgylch o fewn S4C".

Dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "cydnabod na derbyn" yr honiadau a wnaed yn yr adroddiad, gan alw ar Lywodraeth y DU i ymchwilio i arweinyddiaeth S4C.

Yn fuan iawn wedi hynny, cyhoeddodd gŵr Ms Doyle ei bod hi wedi cael triniaeth mewn ysbyty ar ôl cymryd gorddos. 

Yn gynharach y llynedd, ym mis Hydref, cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo fel prif swyddog cynnwys y sianel wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol" mewn bariau yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.

Yn ddiweddarach tarodd Ms Griffin Williams yn ôl yn erbyn cadeirydd y sianel, gan ddweud iddi gael ei diswyddo yn "annheg" ac iddi hi ddioddef "ymddygiad anaddas" yn ei herbyn.

Mae Rhodri Williams wedi ei gyhuddo o ymddwyn ym amhriodol drwy weiddi ar Ms Griffin-Williams, ac mae'n debyg iddo ymddiheuro am wneud hynny yn dilyn ymchwiliad mewnol.

'Y flwyddyn anoddaf'  

Mewn cyfweliad ecsgliwsif â Phrif Ohebydd Rhaglen Newyddion S4C Gwyn Loader, dywedodd Mr Williams nos Fawrth: "Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod y flwyddyn anoddaf i S4C ei chael erioed.

"Cawsom ein rhoi mewn sefyllfa anodd. Cawsom lythyr gan undeb BECTU yn codi pryderon difrifol am ymddygiad rhai aelodau o'r tîm rheoli.

“Rwy’n fodlon iawn â'r ffordd y gwnaeth y bwrdd, yn unfrydol bob amser, ddelio â hynny.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n iawn i ni fod wedi penodi cwmni allanol ac annibynnol i ymchwilio. Ac ar ôl clywed ganddyn nhw, doedd dim dewis gyda ni [ond diswyddo'r cyn brif weithredwr]."

"Rwy'n credu bod y Bwrdd, a minnau fel Cadeirydd, wedi gweithredu'n gywir, ac er budd staff S4C a'r sefydliad yn ei gyfanrwydd."

Pwyllgorau

Wrth ymateb i'w dystiolaeth gerbron pwyllgorau San Steffan a'r Senedd, a galwad y gwleidyddion hynny am benodi Cadeirydd newydd yn ei le, dywedodd Rhodri Williams ei fod yn derbyn eu hawl i farn. 

Ond tarodd Mr Williams yn ôl at y gwleidyddion, gan honni "yr hyn oedd yn fy mhoeni i yw lle roedden nhw'n canolbwyntio eu cwestiynau. 

"Doedd y ffocws ddim ar ganolbwynt y stori hon, sef, yn fy marn i, sut mae staff wedi cael eu trin gan yr arweinwyr. Dyma'r bobl y dylid eu harchwilio."

Wrth ymateb i ddiswyddiadau dau o uwch swyddogion S4C, Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams, fe wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan, Stephen Crabb AS, gyhuddo Mr Williams o weithredu fel "barnwr, rheithgor a dienyddiwr, gan ddefnyddio [cwmni cyfreithiol] Capital Law i weithio ar ei ran" yn y sesiwn ddydd Mercher diwethaf.

Yn ei gyfweliad â Newyddion S4C nos Fawrth, dywedodd Rhodri Williams: "'Dw i ddim yn meddwl bod Stephen Crabb wedi darllen adroddiad Capital Law...a'r hyn a ddywedodd yr adroddiad am y ffordd y gwnaeth y cyn Brif Weithredwr drin ei staff". 

Dywedodd hefyd fod ei gyhuddiad yn "hollol ddi-sail - gwnaed pob penderfyniad gan y Bwrdd yn unfrydol, nid gennyf fi." 

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Mr Crabb i ofyn am ei ymateb. Doedd e ddim am wneud unrhyw sylw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.