Newyddion S4C

Plentyn dwy flwydd oed wedi 'newynu i farwolaeth' ger corff ei dad

17/01/2024
Bronson Battersby

Cafodd bachgen “annwyl” dwy flwydd oed ei ganfod wedi newynu i farwolaeth gerllaw ei dad a fu farw, meddai ei fam. 

Cafodd Bronson Battersby o Skegness yn Swydd Lincoln ei ganfod yn ei ddillad cysgu ger ei dad, Kenneth, bythefnos ar ôl i’r ddau gael eu gweld yn fyw am y tro diwethaf. 

Dywedodd ei fam wrth bapur newydd The Sun ei bod hi wedi derbyn adroddiad post-mortem a bod ei mab wedi marw o ddiffyg bwyd a diod.

Roedd yr adroddiad hefyd yn awgrymu bod tad y plentyn, Kenneth, oedd yn 60 oed, wedi marw ychydig o ddiwrnodau ar ôl diwrnod y Nadolig yn dilyn trawiad ar y galon. Roedd y gŵr yn byw gyda chyflwr meddygol ar y galon yr oedd yn ymwybodol ohono.

Ond heb unrhyw un i ofalu amdano yn dilyn marwolaeth ei dad, bu farw Bronson Battersby yn ddiweddarach, meddai'r fam sydd wedi galw am ymchwiliad i'r oedi cyn dod o hyd iddyn nhw.

Dywedodd Cyngor Swydd Lincoln fod y bachgen bach dan ofal y gwasanaethau cymdeithasol plant ar y pryd, ac fe wnaeth gweithwyr cymdeithasol ymweld â’r eiddo ar 2 Ionawr. Roedd ymweliad arall deuddydd yn ddiweddarach ond doedd dim ateb wrth y drws.

Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw cyn i’r pâr gael eu canfod yn farw ar 9 Ionawr. 

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Swydd Lincoln: “Cafodd yr heddlu wybod am farwolaethau dyn 60 oed a bachgen dwy oed mewn eiddo yn Skegness tua 15.25 ar 9 Ionawr.

“Nid yw eu marwolaethau yn cael eu trin fel rhai amheus yn dilyn ymchwiliadau’r heddlu. 

“Mae’r mater bellach wedi’i drosglwyddo i swyddfa’r crwner.”

Image
Bronson Battersby a'i dad
Bronson Battersby a'i dad, Kenneth

‘Bachgen annwyl’

Dywedodd ei fam, Sarah, aeth i gadarnhau mai ei mab Bronson oedd wedi marw: “Doeddwn i ddim yn gallu ei godi oherwydd bod ei gorff mor fregus. 

“Yr oll oeddwn i'n gallu ei wneud oedd cyffwrdd ag o. Roedd o wedi cael ei adael am gyfnod rhy hir."

Mewn cyfweliad â phapur newydd The Sun, cafodd y bachgen bach ei ddisgrifio fel plentyn “annwyl” gan ffrind i’r teulu. 

Dywedodd: “Mae’n dorcalonnus. Roedd Bronson yn haeddu cymaint, cymaint mwy.

“Fe gafodd ei ganfod wedi’i gyrlio fyny wrth goesau Kenneth. Cafodd ei adael yn y tywyllwch ac mae'n rhaid ei fod wedi bod llawn ofn a dryswch. 

“Mae’n debyg ei fod yn meddwl bod ei dad yn cysgu… Roedd o bob tro'n gwenu ac roedd o mor annwyl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.