Newyddion S4C

Gwynedd Shipping: Penodi gweinyddwyr wrth i dros 120 o swyddi ddiflannu

17/01/2024
Gwynedd Shipping

Mae gweinyddwyr wedi eu penodi i edrych ar ôl asedau cwmni cludiant Gwynedd Shipping, wedi iddo fynd i’r wal.

Mae 127 o swyddi wedi eu colli o ganlyniad i'r datblygiad, yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Gall Newyddion S4C gadarnhau fod cwmni Kroll wedi eu penodi ers dydd Llun fel gweinyddwr ar ran gwmnïau Gwynedd Shipping Limited a'i chwaer gwmni Gwynedd Transport Limited.

Fe fydd James Saunders a Michael Lennon yn gweithredu ar ran Kroll fel gweinyddwyr o hyn allan ar gyfer y ddau.

Dywedodd Kroll wrth Newyddion S4C brynhawn Mercher nad oedd y busnes yn gallu gweithredu bellach "oherwydd maint y rhwymedigaethau etifeddol".

O ganlyniad, cafodd y mwyafrif o'r 142 o weithwyr ar draws y ddau fusnes "eu diswyddo ar unwaith wrth i’r busnesau roi’r gorau i fasnachu."

Dywedodd llefarydd ar ran Kroll:  "Mae’r busnesau, a ddechreuodd fasnachu’n wreiddiol bron i 40 mlynedd yn ôl, wedi wynebu heriau ariannol sy’n gyffredin yn y sector trafnidiaeth a dosbarthu, gan gynnwys rhai contractau sy’n gwneud colled.

"Yn anffodus, oherwydd maint y rhwymedigaethau etifeddol, nid oedd y busnesau’n gallu sicrhau eu dyfodol ar sail busnes gweithredol ac felly cafodd y mwyafrif o’r gweithwyr eu diswyddo ar unwaith wrth i’r busnesau roi’r gorau i fasnachu ar ôl penodi gweinyddwyr."

Ychwanegodd Kroll: “Mae’r Cyd-weinyddwyr mewn trafodaethau gyda sawl parti sydd â diddordeb mewn caffael rhai asedau, cytundebau a llwybrau masnachol, a’r gobaith yw y bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i nifer o gyn-weithwyr. 

"Mae cymorth hefyd yn cael ei ddarparu i gyn-weithwyr i sicrhau y gellir hawlio hawliau statudol.”

Cludo nwyddau

Roedd Gwynedd Shipping yn arbenigo ym maes cludo nwyddau i gwmnïau adeiladu a chludo dur dramor.

Yn ogystal â’r pencadlys ym Mhorthladd Caergybi, roedd gan y cwmni swyddfeydd hefyd ar Lannau Dyfrdwy, Casnewydd, Penbedw, Dulyn a Belfast.

Yn ôl y cyfrifon diweddaraf am y flwyddyn hyd at ddiwedd Mai 2022, roedd trosiant y cwmni'n £18,453,481 - gyda'r cwmni'n gwneud elw o £1,087,890.

Ar y pryd, dywedodd y cwmni ei fod wedi gweld cynnydd mewn elw a throsiant o ganlyniad i ddiwedd ar gyfyngiadau coronafeirws yn y cyfnod yma.

Roedd adroddiadau ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Llun fod y cwmni wedi anfon llythyrau diswyddo i’w gweithwyr, gyda rhai gyrwyr loriau’r cwmni bellach yn chwilio am swyddi newydd.

Fe ddywedodd Cyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru bryd hynny eu bod yn barod i roi cefnogaeth i bawb sydd â chyswllt â'r cwmni.

'Ergyd'

Wrth drafod y datblygiadau ddydd Mercher, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru a'r aelod lleol yn y Senedd ym Mae Caerdydd, Rhun ap Iorwerth AS ei fod yn "ergyd arall" i swyddi ar Ynys Môn.

Ychwanegodd: “Mae hwn yn gwmni sydd yn weithredol ers deugain mlynedd, a mae wedi bod yn rhwybeth ‘da ni’n falch ohono, gweld lorïau Gwynedd Shipping ar y rhwydwwaith draffyrdd ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt. 

Image
Rhun ap Iorwerth AS
Rhun ap Iorwerth AS

"Daeth y newydd yma yn y dyddiau diwethaf bod y cwmni mewn trafferth fel ergyd fawr a’r ergyd yn cael ei theimlo drymaf gan y rhai sy’n cael eu taro’n uniongyrchol a’r rhai sydd yn gweithio i’r cwmni.

"Dwi ddim wedi llwyddo i gael gafael ar y cwmni yn uniongyrchol ac mae hi’n bwysig iawn, iawn, iawn ar adeg fel hyn bod cwmni yn bod mor agored â phosib, ynglŷn â'r sefyllfa â’r heriau y mae yn ei wynebu, a hynny ar gyfer y gymuned yn ehangach ac wrth gwrs ar gyfer y gweithwyr yn bennaf.

"Rydyn ni wedi dioddef ergyd swyddi ar ôl ergyd yn fy etholaeth, gyda’r golled o gannoedd o swyddi yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni yr un mwyaf diweddar a’r achos fwyaf adnabyddus. Ond mae hyn yn nifer sylweddol o swyddi, ac mae’n rhaid sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei roi i’r rhai sydd nawr heb waith."

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Deallwn fod dau o’r busnesau o fewn y grŵp wedi penodi gweinyddwyr sy’n effeithio, yn ôl yr hyn a ddeallwn, ar y ffigur a adroddwyd o 127 o weithwyr posibl mewn amrywiaeth o swyddi.

“Yr her fydd canfod y bobl hynny sydd efallai angen mwy o gefnogaeth i ddod o hyd i waith newydd. Bydd pob un ohonynt yn byw gydag ansicrwydd gwirioneddol yn dilyn y cyhoeddiad sydd wedi’i wneud ac mae’r ffaith na allaf roi eglurder yn ychwanegu at yr ansicrwydd.

"Yr agwedd fwy cadarnhaol, er gwaethaf  y siomedigaeth a'r straen y mae pobl sy’n wynebu wrth golli eu cyflogaeth, yw y dylai gweithgarwch o fewn y porthladd weld cynnydd mewn cyflogaeth yn y dyfodol - dyna beth rydym am geisio ei wneud.

"Ond mae’n rhaid cydbwyso hynny yn erbyn y pryder gwirioneddol iawn yr wyf yn siŵr y bydd nifer o deuluoedd yn mynd i’r gwely ag ef bob nos nes bod eglurder ynghylch eu dyfodol."

Fe wnaeth Mark Isherwood AS hefyd godi pryderon ynglŷn â’r effaith ar weithwyr yng Nglannau Dyfrdwy.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.