Newyddion S4C

Amheuaeth ai Bobi oedd ci hynaf y byd

17/01/2024
Bobi.png

Mae amheuaeth bellach am oedran ci hynaf y byd, gydag ymchwiliad ar y gweill.  

Hawliodd Bobi o Bortiwgal y penawdau y llynedd pan gafodd ei goroni’n gi hynaf y byd erioed gan Guinness World Records.

Yn 31 oed a 165 diwrnod, bu farw Bobi ym mis Hydref 2023. 

Ond bellach mae amheuaeth am ei oedran wedi i rai milfeddygon gwestiynu'r dystiolaeth ynghylch Bobi.

Yn sgil hynny, mae'r Guinness World Records wedi atal y teitl, wrth i ymchwiliad pellach gael ei gynnal.

“Tra bod ein hadolygiad yn parhau, rydym wedi penderfynu gohirio ceisiadau dros dro ar gyfer teitlau'r ci hynaf, hyd nes bod ein holl ganfyddiadau yn eu lle,” meddai llefarydd wrth asiantaeth newyddion AFP .

Cafodd oedran Bobi ei ddilysu gan gronfa ddata anifeiliaid anwes llywodraeth Portiwgal, sydd yn cael ei rheoli gan Undeb Cenedlaethol y Milfeddygon, meddai'r Guinness World Records.

Amheuaeth

Brîd Rafeiro do Alentejo oedd Bobi, ac ar gyfartaledd mae'r math yma o gŵn yn byw am 12 i 14 mlynedd.

Treuliodd ei fywyd cyfan gyda'r teulu Costa ym mhentref Conqueiros, ger arfordir gorllewinol Portiwgal.

Dywedodd ei berchennog, Leonel Costa, mewn datganiad bod "elît o fewn y byd milfeddygol... wedi ceisio rhoi'r syniad i bobl nad oedd stori bywyd Bobi yn wir".

Mae Mr Costa o'r farn i Bobi fyw cyhyd am ei fod yn bwyta bwyd ar gyfer pobl, yn hytrach na bwyd anifeiliaid anwes.

Daeth ymchwiliad gan gylchgrawn Wired i'r casgliad fod Bobi wedi’i gofrestru ar gronfa ddata anifeiliaid anwes Portiwgal fel un a gafodd ei eni yn 1992, ond nad oedd ganddo “unrhyw fanylion cofrestru na data a allai gadarnhau hynny”.

Roedd cwestiynau hefyd am hen luniau o'r anifail anwes a oedd yn dangos patrymau gwahanol ar ei ffwr, gyda rhai yn awgrymu ei fod yn gi gwahanol yn gyfan gwbl.

Dywedodd Danny Chambers, aelod o Goleg Brenhinol y Milfeddygon, wrth The Guardian: "Nid oes yr un o'm cydweithwyr milfeddygol yn credu bod Bobi yn 31 oed mewn gwirionedd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.