Newyddion S4C

Rhodri Williams yn cyhoeddi na fydd yn parhau am ail dymor fel Cadeirydd S4C

16/01/2024

Rhodri Williams yn cyhoeddi na fydd yn parhau am ail dymor fel Cadeirydd S4C

Mae Rhodri Williams wedi dweud nad yw am gael ei ystyried ar gyfer ail gyfnod yn Gadeirydd S4C.

Mae wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Diwylliant Lucy Frazer er mwyn dweud hynny.

Bydd ei gyfnod presennol yn Gadeirydd S4C yn dod i ben ar 31 Mawrth.

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant wedi ymateb i ddiolch iddo am ei waith.

“Rydym yn deall yr amgylchiadau heriol y mae S4C wedi’u hwynebu’n ddiweddar a byddwn yn symud yn gyflym i weithio gyda’r Bwrdd i enwebu Cadeirydd dros dro i gymryd y rôl ar ôl i’ch tymor ddod i ben ar 31 Mawrth,” meddai Lucy Frazer mewn llythyr aeth i law y wefan Nation.Cymru.

“Byddaf yn cadarnhau’n fuan y trefniadau ar gyfer dewis Cadeirydd newydd i roi sefydlogrwydd hirdymor i’r sefydliad.”

Daw'r datblygiad diweddaraf  wedi i un o bwyllgorau Senedd Cymru a San Steffan ysgrifennu at Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU yn argymell y dylai benodi cadeirydd newydd i S4C. 

Roedd Rhodri Williams wedi dweud yr wythnos diwethaf ei fod yn gobeithio parhau yn y swydd er mwyn sicrhau cyfnod o “sefydlogi” ar gyfer staff y darlledwr.

Wrth ymddangos o flaen Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu a’r Gymraeg y Senedd ddydd Iau dywedodd na fyddai camu o'r neilltu “yn gwneud unrhyw les i S4C”.

Anghytunodd cadeirydd y pwyllgor, Delyth Jewell, gan ddweud bod "enghreifftiau clir lle dylai Cadeirydd y Bwrdd fod wedi bod yn ymwybodol o’r amgylchedd gwaith yn y sianel”.

Roedd Pwyllgor Materion Cymreig Llywodraeth y DU wedi awgrymu y dylai S4C benodi Cadeirydd newydd yn ogystal.

Mewn llythyr gan Gadeirydd y pwyllgor, Stephen Crabb AS, at Ysgrifennydd Diwylliant Ceidwadol San  Steffan, Lucy Frazer brynhawn Mercher, dywedodd Mr Crabb: "O ystyried pwysigrwydd S4C a graddfa'r heriau o ran gwella llywodraethiant a'r diwylliant o fewn y sefydliad, rydym yn awgrymu penodi Cadeirydd newydd i sicrhau'r newid yma."

Diswyddo

Daw ymadawiad Rhodri Williams wedi cyfnod cythryblus i’r sianel, yn dilyn honiadau o fwlio.

Collodd Prif Weithredwr S4C, Sian Doyle ei swydd gyda’r darlledwr wedi i adroddiad gan gwmni cyfreithiol Capital Law gael ei gyhoeddi fis Rhagfyr.

Roedd y ddogfen yn nodi fod tystiolaeth staff yn amlygu ymddygiad honedig y Prif Weithredwr "fel un a gafodd yr effaith fwyaf arwyddocaol negyddol ar yr amgylchedd waith ac awyrgylch o fewn S4C".

Dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "cydnabod na derbyn" yr honiadau a wnaed yn yr adroddiad, gan ac alw ar Lywodraeth y DU i ymchwilio i arweinyddiaeth S4C.

Yn fuan iawn wedi hynny, cyhoeddodd gŵr Ms Doyle ei bod hi wedi cael triniaeth mewn ysbyty ar ôl cymryd gorddos. 

Yn gynharach y llynedd, ym mis Hydref, cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo fel prif swyddog cynnwys y sianel wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol" mewn bariau yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.

Yn ddiweddarach tarodd Ms Griffin Williams yn ôl yn erbyn cadeirydd y sianel, gan ddweud iddi gael ei diswyddo yn "annheg" ac iddi hi ddioddef "ymddygiad anaddas" yn ei herbyn.

Mae Rhodri Williams wedi ei gyhuddo o ymddwyn ym amhriodol drwy weiddi ar Ms Griffin-Williams, ac mae'n debyg iddo ymddiheuro am wneud hynny yn dilyn ymchwiliad mewnol.

'Y flwyddyn anoddaf'  

Mewn cyfweliad ecsgliwsif â Phrif Ohebydd Rhaglen Newyddion S4C Gwyn Loader, dywedodd Mr Williams nos Fawrth: "Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod y flwyddyn anoddaf i S4C ei chael erioed.

"Cawsom ein rhoi mewn sefyllfa anodd. Cawsom lythyr gan undeb BECTU yn codi pryderon difrifol am ymddygiad rhai aelodau o'r tîm rheoli.

“Rwy’n fodlon iawn â'r  ffordd y gwnaeth y bwrdd, yn unfrydol bob amser, ddelio â hynny.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n iawn i ni fod wedi penodi cwmni allanol ac annibynnol i ymchwilio. Ac ar ôl clywed ganddyn nhw, doedd dim dewis gyda ni [ond diswyddo'r cyn brif weithredwr]."

"Rwy'n credu bod y Bwrdd, a minnau fel Cadeirydd, wedi gweithredu'n gywir, ac er budd staff S4C a'r sefydliad yn ei gyfanrwydd."

Pwyllgorau

Wrth ymateb i'w dystiolaeth gerbron pwyllgorau San Steffan a'r Senedd, a galwad y gwleidyddion hynny am benodi Cadeirydd newydd yn ei le, dywedodd Rhodri Williams ei fod yn derbyn eu hawl i farn. 

Ond tarodd Mr Williams yn ôl at y gwleidyddion, gan honni "yr hyn oedd yn fy mhoeni i yw lle roedden nhw'n canolbwyntio eu cwestiynau. 

"Doedd y ffocws ddim ar ganolbwynt y stori hon, sef, yn fy marn i, sut mae staff wedi cael eu trin gan yr arweinwyr. Dyma'r bobl y dylid eu harchwilio."

Image

Wrth ymateb i ddiswyddiadau dau o uwch swyddogion S4C, Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams, fe wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan, Stephen Crabb AS, gyhuddo Mr Williams o weithredu fel "barnwr, rheithgor a dienyddiwr, gan ddefnyddio [cwmni cyfreithiol] Capital Law i weithio ar ei ran" yn y sesiwn ddydd Mercher diwethaf.

Yn ei gyfweliad â Newyddion S4C nos Fawrth, dywedodd Rhodri Williams: "'Dw i ddim yn meddwl bod Stephen Crabb wedi darllen adroddiad Capital Law...a'r hyn a ddywedodd yr adroddiad am y ffordd y gwnaeth y cyn Brif Weithredwr drin ei staff". 

Dywedodd hefyd fod ei gyhuddiad yn "hollol ddi-sail - gwnaed pob penderfyniad gan y Bwrdd yn unfrydol, nid gennyf fi." 

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Mr Crabb i ofyn am ei ymateb. Doedd e ddim am wneud unrhyw sylw. 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.