Dewis rheithgor yn achos tri dyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio pêl-droediwr ar Ŵyl San Steffan
Mae aelodau'r rheithgor wedi eu dewis yn achos tri dyn sydd wedi eu chyhuddo o lofruddio pêl-droediwr 23 oed yn Birmingham ar noson San Steffan 2022.
Cafodd Cody Fisher ei drywanu mewn clwb nos yn ardal Digbeth.
Mae Kami Carpenter, 22, Remy Gordon, 23, a Reegan Anderson, 19, yn gwadu llofruddio Mr Fisher yng nghlwb nos Crane toc cyn hanner nos ar 26 Rhagfyr 2022.
Ymddangosodd y tri yn Llys y Goron Birmingham ddydd Llun wrth i aelodau'r rheithgor gael eu dewis ar gyfer yr achos sy'n debygol o bara chwe wythnos.
Mae Remy Gordon, o Cofton Park Drive, Birmingham, a Kami Carpenter a Reegan Anderson, sydd heb gyfeiriad penodol, hefyd yn gwadu iddyn nhw ymladd.
Roedd Cody Fisher, yn gyn aelod o academi bêl-droed Birmingham ac yn chwarae dros Stratford Town a Bromsgrove Sporting.
Mae disgwyl i'r rheithgor o saith dynes a phump dyn glywed achos yr erlyniad wrth i'r gwrandawiad agor ddydd Mawrth.