Newyddion S4C

Menyw yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio bachgen saith oed yn Hwlffordd

13/01/2024

Menyw yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio bachgen saith oed yn Hwlffordd

Mae menyw sydd wedi’i chyhuddo o lofruddio bachgen saith oed yn Hwlffordd wedi’i chadw yn y ddalfa yn dilyn gwrandawiad llys ddydd Sadwrn.

Bu farw'r bachgen, Louis Linse, ddydd Mercher.

Cadarnhaodd Papaipit Linse, o Hwlffordd, ei henw, ei dyddiad geni a'i chyfeiriad yn ystod y gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Abertawe, ac ni ofynnwyd iddi gyflwyno unrhyw ble.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa cyn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ar ddydd Mawrth 16 Ionawr.

Ni chafodd perthynas y bachgen a hi ei ddatgelu yn ystod y gwrandawiad.

Cafodd Linse, sydd yn 42 oed, ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth nos Wener wedi i'r bachgen farw.

Cafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad yn Heol y Farchnad Uchaf, Hwlffordd am 10:45 ddydd Mercher.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys yn ddiweddarach fod y bachgen ifanc wedi marw.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn meddwl am deulu’r bachgen "ar gyfnod trasig".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.