Newyddion S4C

Tonypandy: Arestio dyn wedi i ddyn arall farw y tu allan i ysbyty

01/01/2024
Ysbyty Cwm Rhondda

Mae dyn wedi ei arestio wedi i ddyn arall farw o ganlyniad i "anafiadau difrifol" y tu allan i Ysbyty Cwm Rhondda yn Nhonypandy ddydd Llun.

Mae Heddlu De Cymru wedi dweud eu bod nhw'n ymchwilio i’w farwolaeth wedi iddyn nhw gael ei alw i’r digwyddiad y tu allan i faes parcio'r ysbyty toc ar ôl 05.15 y bore.

Bu farw’r dyn 30 oed o ganlyniad i'w anafiadau, meddai’r llu, ac mae ei deulu bellach wedi cael gwybod.

Mae’r heddlu wedi arestio dyn 30 oed arall mewn cysylltiad â’i farwolaeth ac mae wedi cael ei gymryd i’r ddalfa.

Mae rhan o'r ffordd ar hyd yr A4058 ym Mhen Dinas wedi cau am gyfnod wrth i’r ymchwiliad parhau.

Mae’r llu yn apelio at dystion oedd yn ardal Pen Dinas yn oriau mân y bore a fyddai o bosib wedi gweld neu glywed unrhyw beth.

Maen nhw hefyd yn apelio at unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth i gysylltu â’r heddlu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400000339.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.