Pwy fydd yn olynu y Frenhines Margrethe II o Ddenmarc?
Ddydd Sul fe wnaeth y Frenhines Margrethe II o Ddenmarc gyhoeddi yn annisgwyl y byddai yn ildio'r goron mewn neges flwyddyn newydd.
Hi yw'r Frenhines olaf yn Ewrop wedi marwolaeth Brenhines Lloegr, Elizabeth II ym mis Medi 2022.
A hithau yn 83 oed ac wedi esgyn i’r orsedd yn 1972, hi yw arweinydd benywaidd mwyaf hirhoedlog y byd sy’n dal ar dir y byw hefyd.
Dywedodd y byddai yn ildio’r goron ar 14 Ionawr, 52 mlynedd ar ôl esgyn i’r orsedd yn sgil marwolaeth ei thad Frederick IX yn 1972.
Frederick arall fydd yn ei holynu – ei mab, Tywysog Denmarc sy’n 55 oed ar hyn o bryd.
“Rydw i wedi penderfynu mai nawr yw’r amser iawn,” meddai.
“Ar 14 Ionawr 2024, 52 mlynedd ar ôl i mi olynu fy nhad annwyl, byddaf yn camu i lawr fel Brenhines Denmarc. Rwy'n gadael yr orsedd i fy mab, y Tywysog Frederik."
Bydd gwraig y Brenin newydd, Frederik, y Dywysoges Mary, hefyd yn cael ei hurddo yn Frenhines.
Mae hi’n dod o Awstralia ac fe wnaethon nhw gwrdd yn Sydney yn ystod Gemau Olympaidd 2000 yn y ddinas.
Gweddill Ewrop
Mae saith brenin a brenhines yn Ewrop ar hyn o bryd, yn teyrnasu dros y Deyrnas Unedig, Denmarc, Norwy, Sweden, Sbaen, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg.
Mae Andorra, Liechtenstein, a Monaco hefyd yn dywysogaethau.
Dynion sydd ar yr orsedd yn yr holl deyrnasoedd a thywysogaethau hyn. Ond mae’n annhebygol mai Margrethe II fydd y Frenhines olaf am beth amser.
Mae etifeddion benywaidd yn Sweden, y Dywysoges Victoria, yr Iseldiroedd, y Dywysoges Catharina-Amalia, Gwlad Belg, y Dywysoges Elisabeth, a Sbaen, y Dywysoges Leonor a aeth i’r coleg am ddwy flynedd yng Ngholeg yr Iwerydd ym Mro Morgannwg.