Newyddion S4C

Bachgen 11 oed o Gaerffili yn cwrdd â’i roddwr bôn-gelloedd a achubodd ei fywyd

30/12/2023
Alan McPike a Ryan Brand

Mae bachgen 11 oed sydd ag anhwylder gwaed prin wedi cwrdd â’i roddwr bôn-gelloedd a achubodd ei fywyd.

Fe wnaeth Allan McPike, 41 oed o Glasgow, ymuno â chofrestr bôn-gelloedd Anthony Nolan.

Ers hynny mae ei rodd wedi trawsnewid bywyd Ryan Brand, o Gaerffili.

Cafodd Ryan ddiagnosis o anemia diamond-blackfan (DBA), pan oedd yn wyth mis oed.

Dyma anhwylder gwaed prin sy’n atal y corff rhag cynhyrchu celloedd coch. Gallai’r anhwylder hyn rhoi pobl mewn mwy o berygl o ddatblygu clefydau fel canser y gwaed a mêr esgyrn.

Dywedodd mam Ryan, Sam Brand, 34, wrth asiantaeth newyddion PA fod clywed am y diagnosis DBA yn “hollol erchyll”.

“Roeddwn i wedi bod yn mynd ag ef yn ôl ac ymlaen at y meddygon ers oesoedd, gan fod ganddo beswch ac annwyd.

“Pan gafodd ei fedyddio a dechreuodd pobl ddweud pa mor welw a gwael yr oedd yn edrych. Meddyliais, rwy’n fam am y tro cyntaf a dylwn wrando ar gyngor y meddyg.”

Image
Ryan Brand
Ryan yn derbyn trallwysiad gwaed.

Roedd Ryan angen trallwysiadau gwaed misol, a dywedodd Mrs Brand bod y driniaeth yma yn “anodd iawn”.

“Roedd yn gyfnod emosiynol iddo ac yn emosiynol i ni,” ychwanegodd.

“Dywedodd y doctoriaid wrthon ni pe na bai Ryan yn cael trawsblaniad y bydde fe’n marw.”

O ganlyniad i rodd Mr McPike, derbyniodd Ryan fêr esgyrn ym mis Mehefin 2017, pan oedd yn chwech oed.

Dywedodd Mrs Brand fod mynd i mewn am y driniaeth “yn frawychus”.

Bydd Ryan, sy’n troi’n 12 ym mis Mawrth, yn cael DBA am weddill ei oes ond nid oes angen trallwysiadau gwaed misol arno fwyach o ganlyniad i’r trawsblaniad.

Diolchgar

Fe wnaeth Ryan a’i fam gwrdd â Mr McPike yng Nghaeredin ym mis Tachwedd eleni.

Roedd Mrs Brand yn “hynod gyffrous ond ar yr un pryd yn nerfus iawn” am gysylltu â Mr McPike, meddai. 

“Roeddwn i wir eisiau dweud diolch iddo. Fe achubodd bywyd fy mab, allwch chi ddim gofyn am fwy.

“Mae ganddo deulu ei hun ac mae rhywbeth mor fach y mae wedi’i wneud wedi cael effaith mor fawr.

“Oni bai amdano fe, ni fyddai Ryan yma heddiw,” meddai hi.

Yn ôl Mr McPike, roedd cwrdd â Ryan a’i fam yn brofiad “gwych.” 

Dywedodd: “Roedd yn braf ei weld o’r diwedd a chwrdd â’r teulu hefyd. 

“Maen nhw wedi bod trwy lawer iawn.” 

Cofrestrodd Mr McPike tra roedd ei gyfnither yn derbyn triniaeth ar gyfer tiwmor ar yr ymennydd. 

“Roedd Anthony Nolan yn gwneud ymdrech fawr i gael pobl i gofrestru ar y pryd.

“A minnau’n ofnus o nodwyddau, cefais fy ysbrydoli gan fy nghefnder i gofrestru. 

“Meddyliais ‘wel, ni allaf ddweud na o ystyried popeth y mae hi’n mynd drwyddo’. Es i draw a rhoi rhodd ar y diwrnod.” 

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.