Newyddion S4C

Caerdydd: Cychwyn cyfnod pellach o streiciau gan weithwyr gwastraff

28/12/2023
Gweithwyr casglu sbwriel

Bydd aelodau undeb Unite sy’n gweithio i adran sbwriel ac ailgylchu Caerdydd yn dechrau streicio unwaith eto dydd Iau.

Bydd y streic yn cael ei chynnal am bedar wythnos nes Ionawr 25.

Mae’r gweithwyr yn anhapus gyda nifer o faterion lleol gan gynnwys bwlio honedig, meddai’r undeb.

Roedden nhw hefyd yn anhapus nad oedd y cyngor wedi “digolledu gweithwyr am yr argyfwng costau byw”, medden nhw.

Dywedodd Cyngor Caerdydd y gallai’r streic achosi peth aflonyddwch ac oedi wrth gasglu sbwriel.

Maen nhw wedi cynghori trigolion i chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf ar ei wefan.

‘Ymddiheuro’

Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud bod yr honiadau o fwlio yn cyfeirio at ddigwyddiadau mwy na blwyddyn yn ôl a bod ymchwiliad annibynol wedi canfod nad oedd sail iddyn nhw.

Dydyn nhw ddim yn deall beth oedd yr undeb yn gobeithio ei gyflawni drwy weithredu diwydiannol pellach ar hyn o bryd, medden nhw.

Mewn datganiad yn gynharach yn y mis dywedodd y cyngor eu bod nhw wedi “rhoi cynllun ar waith i gynnal gwasanaethau ac rydym yn ymddiheuro ymlaen llaw i drigolion am unrhyw anghyfleustra”.

“Yn ystod cyfnodau o streic, bydd y cyngor bob amser yn blaenoriaethu casglu gwastraff bwyd, gwastraff cyffredinol ac ailgylchu i sicrhau bod cynwysyddion gwastraff bwyd a bwyd yn cael eu tynnu oddi ar y strydoedd cyn gynted â phosibl, gan leihau'r risg o bagiau’n cael eu hollti gan adar neu anifeiliaid gan greu sbwriel stryd.”

‘Grac’

Wrth gyhoeddi y streic ganol mis Rhagfyr, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham bod cyngor Caerdydd “wedi methu’n llwyr â chydnabod bod yna ddiwylliant o fwlio o fewn yr adran sbwriel ac ailgylchu”. 

“Rhaid i'r cyngor weithredu ar frys i fynd i'r afael â hyn.

“Mae ein haelodau yn dod ar draws bwlio yn y gwaith bob dydd ac maen nhw wedi cael digon. Mae'r bleidlais lethol o blaid streicio yn brawf clir o ba mor grac ydyn nhw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.