Newyddion S4C

'Camargraff' am nifer aelodau YesCymru medd y cyn-brif weithredwr

Newyddion S4C 21/12/2023

'Camargraff' am nifer aelodau YesCymru medd y cyn-brif weithredwr

Mae "camargraff" am nifer aelodau YesCymru, yn ôl cyn-brif weithredwr cyntaf y mudiad, gafodd ei ddiswyddo yn ddisymwth yr wythnos yma.

Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Gwern Gwynfil bod "data gwallus" yn golygu bod y ffigwr o 18,000 o aelodau gafodd ei gyhoeddi ar gyfrif Twitter YesCymru ym mis Mawrth 2021 "ddim yn gywir nac yn agos i fod yn gywir".

Mae Newyddion S4C yn deall bod cyfanswm yr holl aelodau ers sefydlu'r mudiad yn llai na 10,000.

Mae YesCymru'n fudiad trawsbleidiol sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru.

Fe gafodd Gwern Gwynfil ei ddiswyddo ddydd Llun. Dywedodd mai'r esboniad gafodd e oedd bod "y swydd wedi'i orffen yn ei gyfanrwydd a'i waredu yn llwyr."

"Y llinell yn y llythyr oedd oherwydd gofynion gwahanol i'r busnes." meddai Mr Gwynfil.

"Nes i ymrwymo i'r swydd am dair blynedd ar y ddealltwriaeth mai tair blynedd oedd y rôl. Mae'n drueni bod y swydd yna wedi dod i ben ar ôl pymtheg mis."

Dywedodd YesCymru mai pryder am ddyfodol ariannol y mudiad oedd wrth wraidd y penderfyniad i ddiddymu swydd y Prif Weithredwr.

"Roedd mwyafrif y bwrdd yn teimlo y byddai'n anghynaladwy parhau i gyflogi Prif Weithredwr." meddai  datganiad ar ran Bwrdd Rheoli Cenedlaethol y mudiad.

"Y bwriad sylfaenol wrth wraidd y syniad o greu’r swydd o Brif Weithredwr oedd i gynyddu aelodaeth ac incwm y mudiad...Ond dyw aelodaeth YesCymru ddim wedi tyfu ers penodi Gwern."

Mae Gwern Gwynfil yn cydnabod bod y cyfnod diweddar wedi bod yn un anodd i fudiadau gwirfoddol a gwleidyddol ar draws y wlad. Ond mae'n amddiffyn perfformiad YesCymru dan ei arweinyddiaeth.

"Mae pob ymgyrch a phlaid wleidyddol yng Nghymru wedi colli aelodau dros y deuddeg mis diwethaf. Dyw hynny ddim yn wir am YesCymru," meddai.

"Ry'n ni wedi cadw yr un lefel o aelodaeth ac yn wir wedi ychwanegu rhywfaint i'r lefel aelodaeth yna."

'Gwneud yn well'

Gan gadarnhau mai rhwng 6,000- 7,000 o aelodau sydd gan y mudiad, dywedodd "fel mudiad gwleidyddol, mae [YesCymru] wedi gwneud yn well nag unrhyw sefydliad gwleidyddol arall yng Nghymru [eleni]."

Yn eu datganiad, dywedodd Yes Cymru eu bod yn "gwario 20c o bob £1 y mae’n ei derbyn gan aelodau ar gyflog un person yn unig" a bod y bwrdd ddim "yn teimlo bod hynny'n ein galluogi ni i barhau i’r dyfodol ar sylfaen ariannol gadarn."

Ond anghytuno mae Gwern Gwynfil, gan ddweud bod "sawl mudiad gwirfoddol lle mae 40-60% o incwm yn mynd ar staffio. Dyw hynny ddim yn anarferol."

Dywedodd y tad i bump ei fod yn edrych ymlaen at Nadolig "prysur" gyda'i deulu ac y byddai'r gwaith o chwilio am swydd newydd yn dechrau ar ddiwrnod San Steffan.

Fe gadarnhaodd hefyd ei fod yn parhau yn aelod o'r mudiad, ac yn hyderus y byddai'r gwaith ymgyrchu o blaid annibyniaeth i Gymru yn parhau.

Roedd bwrdd YesCymru am bwysleisio "nad oedd hyn yn benderfyniad hawdd – mae dod a chytundeb unrhyw berson i ben yn benderfyniad anodd, ond gan fod Gwern Gwynfil yn berson mor hoffus a phoblogaidd, roedd y penderfyniad yn anoddach fyth." 

Ychwanegodd llefarydd: "Mae Bwrdd YesCymru yn... ffyddiog ein bod wedi gwneud y penderfyniad cywir wrth ystyried yr incwm presennol a'r ffaith bod rhifau ein aelodaeth heb gynyddu.

"Yn Awst 2022 roedd dros 7000 o aelodau gan YesCymru, heddiw mae gan YesCymru tua 6500."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.