Gwynedd yn gweld 'gostyngiad serth' yn nifer yr ail gartrefi sy'n destun premiwm treth cyngor
Mae Gwynedd wedi gweld gostyngiad serth yn nifer yr ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor sy’n destun premiwm treth cyngor y sir dros y flwyddyn ddiwethaf.
Datgelodd ymchwil y Cyngor fod mwy na 500 yn llai o ail gartrefi yn y sir yn destun y dreth ym mis Tachwedd 2023, o gymharu â mis Tachwedd 2022.
Er ei bod yn ymddangos bod nifer yr eiddo wedi gostwng, nid oedd “digon o dystiolaeth i ddweud ei fod oherwydd effaith y premiwm ei hun”, meddai’r Aelod Cabinet dros Gyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, wrth gyfarfod llawn y cyngor ddydd Iau.
A dywedodd pennaeth cyllid y cyngor, Dewi Owen, eu bod wedi gweld mwy o eiddo yn “pontio” o fod yn destun treth cyngor i fod yn unedau gwyliau hunanarlwyo.
Dywedodd eu bod “yn amlach na pheidio yn osgoi treth gan eu bod yn derbyn rhyddhad treth busnesau bach” pan gaiff ei newid.
Premiwm treth cyngor
Penderfynwyd yn y cyfarfod i beidio â gwneud unrhyw newidiadau i drefniadau Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.
Cytunodd y cyngor yn ffurfiol i barhau i gadw'r premiwm ar 150% ar gyfer ail gartrefi, a 100% ar gyfer tai gwag hirdymor.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod y cyngor yn ceisio canfod y rhesymau dros y gostyngiad yn niferoedd ail gartrefi.
Disgrifiodd Mr Owen hefyd sut yr oedd mwy o eiddo wedi symud yn ôl i system y dreth gyngor yn 2023, o gymharu â 2022.
Roedd cynyddu’r trothwyon ar gyfer trosglwyddo i ardrethi busnes, a ddaeth i rym ar Ebrill 1, “yn sicr yn debygol o fod wedi cael effaith ar hyn,” meddai.
Ond ychwanegodd: “Os yw eiddo gwyliau yn dod yn ôl i’r system treth cyngor, pam fod nifer yr ail gartrefi yn gostwng hefyd?
“A yw’r eiddo hyn yn cael eu gwerthu neu eu gosod fel prif gartrefi, yn unol â bwriad Cyngor Gwynedd a pholisi Llywodraeth Cymru, neu a oes rhywbeth arall yn digwydd?
“Dyna mae’r ymchwil, sydd wedi adnabod patrymau gwahanol mewn gwahanol gyfnodau, yn ceisio ei sefydlu.”
Cyn y pandemig roedd nifer yr ail gartrefi at ddibenion trethiant yn “gostwng yn raddol” mewn ardaloedd gyda chyfran uchel iawn a sylweddol iawn o ail gartrefi, ond yn cynyddu mewn ardaloedd gyda niferoedd is, nododd.