Newyddion S4C

Cyhoeddi'r newidiadau mwyaf i raglen yr Eisteddfod Genedlaethol ers 'blynyddoedd lawer'

08/12/2023

Cyhoeddi'r newidiadau mwyaf i raglen yr Eisteddfod Genedlaethol ers 'blynyddoedd lawer'

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi ei rhaglen gystadlu gychwynnol ar gyfer y Brifwyl 2024, gan wneud y newidiadau mwyaf sylweddol i’r drefn “ers blynyddoedd lawer.” 

Fel rhan o’r cynlluniau, bydd pob cystadleuaeth dorfol yn ymddangos ar lwyfan y prif bafiliwn, a hynny heb orfod cyflwyno rhagbrofion torfol yn unrhyw adran. 

Bydd cystadleuaeth gorawl newydd yn cael ei chynnal ar lwyfan y Pafiliwn yn Rhondda Cynon Taf ddydd Sul, a hynny’n “rhoi pwyslais” ar annog corau cymunedau lleol i gystadlu’n genedlaethol “am y tro cyntaf.”

Ond yn sgil hynny, mi fydd cystadleuaeth y Côr Agored mewn “slot newydd” ddydd Mercher. 

Bydd cystadlaethau corawl pellach yn cael eu cynnal “yn ddyddiol” yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2024, ac fe fydd cystadleuaeth gorawl Eisteddfodau Cymru’n cychwyn y cyfan ar ddydd Sadwrn, 4 Awst.  

Bydd prif gystadlaethau unigol pob adran yn cael eu cynnal ar y dydd Sadwrn olaf, gan greu “diweddglo arbennig” i’r wythnos, meddai'r trefnwyr. 

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn “trafodaethau, mewnbwn ac ymateb mewnol” gan bwyllgorau lleol a chenedlaethol yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â sylwadau gan gystadleuwyr, beirniaid a’r cyhoedd dros y misoedd diwethaf, meddai’r trefnwyr. 

“Yn ddi-os, dyma’r newid mwyaf i’r rhaglen ers blynyddoedd lawer,” meddai Trystan Lewis, cadeirydd Pwyllgor Diwylliannol yr Eisteddfod Genedlaethol. 

“Rwy’n gobeithio’n arw y bydd ein cystadleuwyr a’n cynulleidfa’n gweld hwn fel datblygiad cyffrous, sy’n sicrhau lle’r cystadlu fel rhan greiddiol o’r ŵyl am flynyddoedd i ddod,” ychwanegodd. 

Beirniadaeth

Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol  wedi wynebu beirniadaeth am wneud newidiadau i drefn ei rhaglen, wedi i nifer gael eu cythruddo dros yr haf ynglŷn â’r penderfyniad i gynnal rhai cystadlaethau torfol ar ddyddiau gwahanol i'r blynyddoedd diwethaf yn Eisteddfod Llyn ac Eifionydd.

Ond yn dilyn cwynion gan gystadleuwyr, penderfynwyd newid trefn y rhaglen unwaith yn rhagor, gan droi’n ôl i’r cynllun gwreiddiol. 

Ond mae cyfle i “edrych o’r newydd” ar drefn y rhaglen wedi arwain at nifer o newidiadau ar gyfer cystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol 2024, a fydd yn cael ei chynnal ym Mhontypridd.

Dywedodd Mr Lewis: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cynnig cyngor a barn wrth i ni ddatblygu’r rhaglen yn fewnol i gychwyn ac yna wrth drafod ambell syniad yn ehangach.

“Mae’r cyfle i wrando a gweithredu mewn ffordd newydd a gwahanol wedi ein galluogi ni i greu rhaglen sy’n llifo’n apelgar a deniadol, gan weithio’n well i’n cystadleuwyr yn ogystal â’r gynulleidfa yn y Pafiliwn.

“Dim ond diwrnod pob cystadleuaeth sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.  Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion yn y flwyddyn newydd, ac yna’n cyhoeddi’r rhaglen gyflawn ar ôl y dyddiad cau ar 1 Mai, unwaith mae niferoedd yr ymgeiswyr ym mhob cystadleuaeth wedi’u cadarnhau.”

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal rhwng 3-10 Awst y flwyddyn nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.