Profiad personol Delyth Jewell o ganser pancreatig ar ôl colli aelod o'r teulu i'r afiechyd
Mae dirprwy arweinydd Plaid Cymru Delyth Jewell wedi rhannu ei phrofiad personol hi o ganser pancreatig, wedi iddi golli ei mam-gu i'r afiechyd.
Clywodd y Senedd bod cyfraddau y bobl sy'n goroesi canser pancreatig yng Nghymru ar ei hôl hi o gymharu gyda gweddill y byd, gyda llawer o bobl yn marw o fewn wythnosau o dderbyn diagnosis.
Mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi derbyn bod rhaid i Gymru "wneud yn well" wrth drin pobl sy'n diodde o ganser o'r fath
Dywedodd Delyth Jewell: "Roedd hi (mam-gu) wedi bod yn sal dros gyfnod y Nadolig. Doedd hi ddim yn hi ei hun. Roedd hi wedi bod yn cwyno am boenau yn y stumog ond doedd hi ddim eisiau trafferthu'r meddyg.
"Dwi'n cofio hi'n dod draw ar ddiwrnod Nadolig yn gwisgo penwisg dros ei phen. Doeddwn i erioed wedi ei gweld yn gwisgo un fel yna. Roedd hi'n edrych mor frau.
"O fewn wythnosau, wel, llai na hynny, dyddiau, fe wnaeth ei chyflwr hi waethygu'n ddifrifol.
"Aeth hi fewn i'r ysbyty gan ei bod hi mewn gymaint o boen, roedd ei bysedd wedi chwyddo mor ddrwg nes bod yn rhaid iddyn nhw dorri ei modrwy briodas hi i ffwrdd.
"Dwi ddim eisiau unrhyw un i ddioddef yn y ffordd y gwnaeth hi, a'r hyn oedd yn rhaid i fy mam ei weld yn ei cholli hi fel yna."
'Rhy hwyr'
Dywedodd yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd dros ranbarth Gogledd Cymru Mark Isherwood bod Cymru yn safle 30 allan o'r 33 o wledydd sydd gan ddata ar gyfraddau goroesi pum mlynedd ar gyfer pobl gyda chanser pancreatig.
Dim ond 6% sydd yn goroesi am fwy na pum mlynedd o gymharu gyda 50% ar gyfer mathau eraill o ganser.
"Dyw saith ymhob 10 o bobl sydd yn derbyn diagnosis o ganser pancreatig ddim yn derbyn triniaeth, un ai oherwydd bod eu canser wedi cael ei ddarganfod yn rhy hwyr, neu oherwydd bod eu cyfeiriadau wedi cymryd yn rhy hir," meddai.
Mae'r aelod mainc cefn Llafur dros Ddwyrain Abertawe Mike Hedges wedi galw am gyfrifoldebau arbenigol ar gyfer canser pancreatig ymhob bwrdd iechyd.
Dywedodd bod llawer o'r symptomau yn gallu awgrymu afiechydon eraill.
Derbyniodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yn well er mwyn rhoi gobaith i bobl sy'n derbyn diagnosis.
Dywedodd wrth y Senedd fod canlyniadau ar gyfer canser pancreatig yn parhau yn wael, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd.
Ychwanegodd mai Cymru ydi'r wlad gyntaf yn y DU i sicrhau bod ei phoblogaeth gyfan yn gallu cael mynediad at ganolfannau diagnostig cyflym, gan ei ddisgrifio fel cam pwysig iawn.