Rhai o ddisgyblion Ysgol Llanhari yn rhan o'r gwaith o ddylunio cadair Eisteddfod Genedlaethol 2024
Rhai o ddisgyblion Ysgol Llanhari yn rhan o'r gwaith o ddylunio cadair Eisteddfod Genedlaethol 2024
Dyna pam mae'n bwysig bod ni'n helpu gyda'r Eisteddfod achos bod ni'n cofio.
Dysgu am hanes Cymru a'r Eisteddfod mewn sesiwn gyda'r Archdderwydd. Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i filltir sgwâr plant Ysgol Llanhari y flwyddyn nesaf ac mae digon o gyffro yma. Dw i byth 'di mynd i unrhyw beth Eisteddfod o'r blaen felly mae'n rhywbeth newydd.
Rydw i'n rili hapus a chyffrous. Fi'n rili hapus bod nhw wedi dewis Llanhari. Bob blwyddyn, mae cystadleuaeth fawr yn yr Eisteddfod gyda bardd yn cael Cadair am 'sgrifennu'r gerdd orau.
Mae Cadair newydd yn cael ei chreu ar gyfer yr achlysur. Eleni, mae Ysgol Llanhari yn noddi'r Gadair leol a chafodd y disgyblion yma'r cyfle i gynnig eu syniadau.
Mae'n fraint fawr oherwydd mae'n peth mor fawr dros Gymru gyfan. Mae'n fraint oherwydd fi o ysgol fach Llanhari yn cael dweud mawr mewn rhywbeth sydd mor bwysig i Gymru.
Mae yn ardal ni so mae'n rhoi cyfle i fod mwy mewn i'n Cymreictod ni cael dealltwriaeth o'r Eisteddfod a pam ni'n dathlu bob blwyddyn.
Mae'n teimlo bach yn swreal oherwydd ni ddim yn gwybod am ysgol sydd wedi cael y cyfle hwn.
I wybod bod ni'n gallu dylunio'r Gadair o beth ni eisiau mae'n teimlo'n eitha dda.
Un o bethau nodedig yr Eisteddfod deithiol yw ei bod hi'n rhoi cyfle i blant, pobl ifanc a'r rhai hyn ddod i wybod am y trysor hwn sydd gyda ni.
Holodd un o'r athrawon faint sydd wedi bod mewn Eisteddfod a doedd fawr neb wedi bod mewn Eisteddfod.
Gobeithio, ar ôl flwyddyn nesaf, a hithau ym Mhontypridd y bydd mwy yn dod. Fi jyst yn y ciw ar gyfer prynu tocynnau ar gyfer Maes B eleni.
A mae lot o dy ffrindiau'n mynd i Faes B. Ie, mae loads yn mynd. Faint o bobl sydd yn y ciw? Mae 108 o 'mlaen i nawr. O'r Gadair, i Faes B - oes, mae 'na hen edrych ymlaen yn barod at Eisteddfod y Rhondda.
Pwy a ŵyr, o blith y disgyblion, efallai bod yma prifeirdd y dyfodol.